Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd cynhwysol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.
Gyda thîm o fwy na 570 o gynghorwyr gyrfa, cynghorwyr cyswllt busnes ac anogwyr cyflogadwyedd, mae ein gwasanaeth yn dechrau drwy gefnogi pobl ifanc gyda dewisiadau pwysig a chyfnodau pontio yn ystod eu blynyddoedd ysgol ynghyd â darparu profiadau o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r gwasanaeth Cymru'n Gweithio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth wedi'i deilwra i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion gyda'u hanghenion cyflogadwyedd gan gynnwys gwaith â thâl, cyfleoedd hyfforddi a chymorth ar ôl colli swydd.
Nod ein gweledigaeth Dyfodol Disglair ar gyfer 2021 - 2026 yw darparu gwasanaeth personol, dwyieithog sy'n seiliedig ar anghenion ein cwsmeriaid, gan sicrhau ein bod yno ar gyfer y adegau pwysig ym mywydau pobl a bod ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb, gan adael neb ar ôl.