MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ebrill, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Maes yr Haul

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Maes yr Haul

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Maes yr Haul
Disgrifiad swydd
Swyddog Cymorth Dysgu / Goruchwyliwr llanw wrth gefn - Ysgol Gynradd Maes yr Haul

30 awr yr wythnos – Tymor yr Ysgol

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Maes yr Haul yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i ymuno â thîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar.

Mae ein Swyddogion Cymorth Dysgu yn rhan hanfodol o'n timau ystafell ddosbarth ac mae llawer ohonynt hefyd yn gweithio fel Goruchwylwyr Llanw ar sail wrth gefn fel rhan o'r wythnos gan ddarparu gwasanaeth CPA ar gyfer yr athro/athrawes ddosbarth arferol. Felly, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr a fyddai hefyd yn hyderus ac yn barod i  ymgymryd â'r gwaith hwn pe bai angen.

Rydym yn ystyried penodiadau ar gyfer mwy nag un swydd yn yr ysgol, felly mae gennym ddiddordeb mewn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad o wahanol oedrannau o fewn yr ystod gynradd.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 5 Ebrill 2023

Cliciwch yma am y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
I wneud cais am y swydd hon cliciwch ar 'Gwneud Cais Ar-lein'