MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £30,806 - £32,706
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Dirprwy Reolwr Cyffredinol Bwyty

Dirprwy Reolwr Cyffredinol Bwyty

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Dirprwy Reolwr Cyffredinol Bwyty
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £30,806 - £32,706
Mae gan Goleg Cambria gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm yn ein Bwyty ar ein safle Iâl. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Cyffredinol i ymuno â’n tîm. Fel Dirprwy Reolwr Cyffredinol byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo’r Rheolwr Cyffredinol gyda gweithrediadau dyddiol yr adran arlwyo fasnachol gan gynnwys Bwyty Iâl a’r Siop Goffi. Fel rhan o’ch swydd byddwch yn arwain, datblygu ac yn ysbrydoli staff a myfyrwyr sy’n gweithio yn yr adran i ddarparu gwasanaeth bwyd ardderchog, gan gynnwys cynadleddau a digwyddiadau. Byddwch yn cydweithio gyda’r tîm cwricwlwm i sicrhau bod myfyrwyr yn trosglwyddo’n ddidrafferth o'r amgylchedd dysgu i'r ardaloedd masnachol.
Mae buddion gweithio yng Ngholeg Cambria yn cynnwys cynlluniau pensiwn ardderchog, cydbwysedd bywyd a gwaith da iawn, 28 diwrnod gwyliau, yn ogystal â gwyliau’r banc a hyd at 5 diwrnod yn ystod gwyliau’r Nadolig gyda bwyty Iâl ar gau yn ystod cyfnod y Nadolig. Bydd hyfforddiant ar gael a llawer o gyfleoedd i symud ymlaen. Hefyd cewch 20% oddi ar fwyd a diod ym Mwyty Iâl.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Fwyty Iâl ar ialrestaurant.co.uk neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @ialrestaurant.
Gofynion Hanfodol
● NVQ 3 mewn Goruchwylio Bwyty neu gymhwyster tebyg
● Gwybodaeth gadarn am wasanaethau bwyd a diod yn y sector
● Profiad amlwg o ddarparu gwasanaeth rhagweithiol rhagorol
● Profiad o weithio gyda phrentisiaid a’r rhai sy’n hyfforddi
● Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, tact a doethineb.
● Safon dda mewn llythrennedd a rhifedd.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol / hanfodol gyfer y swydd hon.