MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Plymwaith

Coleg Gwyr Abertawe
Wrth i’n Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig ehangu, mae cyfle cyffrous wedi codi i Ddarlithydd profiadol mewn Plymwaith ymuno â thîm brwdfrydig ac ymroddedig.

Bydd gennych hanes o weithio ym maes Plymwaith/gwresogi a gwybodaeth gyfredol o’r sector. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno cwricwlwm a chyrsiau eang, er enghraifft, cyrsiau ysgol, cyrsiau amser llawn, prentisiaethau a chyrsiau lefel uwch (sy’n cynnwys darpariaeth adnewyddadwy ac amgylcheddol).

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Plymwaith. Yn ogystal, bydd gennych gymhwyster Nwy ACS a chymhwyster Lefel 2 (TGAU neu’r cyfwerth) mewn llythrennedd a rhifedd. Byddwch hefyd yn barod i sicrhau cymhwyster addysgu.

Rydym yn chwilio am unigolion ysbrydoledig sydd â dealltwriaeth o reoliadau perthnasol ac awydd i drosglwyddo eu profiad a’u gwybodaeth wrth gyflwyno hyfforddiant technegol.

Byddwch yn datblygu a defnyddio amrywiaeth o strategaethau dysgu, gan gynnwys TGCh, i sicrhau ardderchowgrwydd mewn perthynas ag addysgu a dysgu. Byddwch hefyd yn cwblhau targedau cwrs at ddibenion cadw a chyrhaeddiad.

Byddwch yn gyfathrebwr clir a hyderus a byddwch yn gallu ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu a datrys problemau gwych a pharodrwydd i weithio’n hyblyg.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Cyflog: £22,581 - £44,442 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Buddion:
Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail pro-rata, 5 diwrnod cau pro-rata ac 8 gwyl banc pro-rata, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.