MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN
  • Testun: Seicoleg
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,581 - £44,442
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Chwefror, 2023 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Seicoleg

Darlithydd Seicoleg

Coleg Sir Gar
Mae'r swydd hon yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i ddarlithydd rhagweithiol, brwdfrydig, medrus ac arloesol sydd â gwybodaeth bynciol gref a phrofiad eang o addysgu Seicoleg Safon Uwch. Os ydych yn unigolyn ymroddedig, profiadol ac uchelgeisiol sydd wrth eich bodd yn addysgu oedolion ifanc 16+ oed, mae hwn yn gyfle gwych i chi.

Byddwch yn allweddol wrth gyflwyno Seicoleg Safon Uwch, ac yn addysgu 24 awr yr wythnos gan gyflwyno'r unedau seicoleg mewn Dulliau Damcaniaethol ac Ymchwil i'n dysgwyr Mynediad sy'n oedolion. Yn ychwanegol, bydd deilydd y swydd yn diwtor ar gyfer grŵp Safon Uwch. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarlithydd uchelgeisiol ymuno ag adran sy’n cyflawni gwelliannau o un flwyddyn i’r llall o ran canlyniadau myfyrwyr a’r cwmpas i lywio cyfeiriad y pwnc hynod boblogaidd hwn o fewn Cyfadran lwyddiannus iawn. Byddwch yn gyfarwydd â manylebau CBAC a bydd gennych brofiad o baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau allanol, gan eu galluogi i symud ymlaen i'r prifysgolion mwyaf cystadleuol. Mae llawer o'n myfyrwyr Seicoleg Safon Uwch yn symud ymlaen i astudio cyrsiau mewn Seicoleg Glinigol, Seicoleg, Troseddeg, Seicoleg Chwaraeon a Dadansoddeg, Fforenseg, a graddau gwyddoniaeth a gwyddorau cymdeithasol eraill. Byddwch yn helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu huchelgeisiau yn y prifysgolion gorau ac ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol.

Mae’r swydd yn darparu cyfle gwych i gyfuno eich sgiliau eithriadol mewn addysgu a dysgu gyda chynllunio a threfnu lefel uchel. Disgwylir i ddeilydd y swydd feddu ar wybodaeth dda o faes llafur Seicoleg Safon Uwch CBAC ac mewn paratoi dysgwyr ar gyfer arholiadau allanol.

Cynigia’r Coleg gyfleoedd datblygiad proffesiynol gwobrwyedig yn eich pwnc a hefyd wrth ddatblygu eich uchelgeisiau ym maes addysg. Mae’r pecyn yn cynnwys gwyliau gwych; cynllun pensiwn deniadol; aelodaeth o’r gampfa yn rhad ac am ddim a phecynnau lles.
JOB REQUIREMENTS
Hanfodol:

Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
Cymhwyster addysgu
TGAU/Lefel O Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C
Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
Profiad addysgu perthnasol
Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
Y gallu i weithio’n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg

Dymunol:

Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
Trwydded yrru gyfredol
Parodrwydd i yrru bws mini’r coleg
Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
Parodrwydd i fod yn swyddog cymorth cyntaf (teithiau a gweithdai)