MANYLION
  • Lleoliad: Whitland, Carmarthenshire, SA34 0EL
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £54,918.00 - £63,656.00
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ffederasiwn Ysgolion Bro Brynach a Beca

Pennaeth - Ffederasiwn Ysgolion Bro Brynach a Beca

Ffederasiwn Ysgolion Bro Brynach a Beca
Pennaeth - Ffederasiwn Ysgolion Bro Brynach a Beca

I ddechrau Medi 2023

Mae’r Corff Llywodraethol am benodi ymarferwr ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddedig a deinamig i arwain, herio, a pharhau i godi ein dyheadau a sicrhau cyfleoedd dysgu rhagorol i bob disgybl.

Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Pennaeth sydd ag angerdd dros ddatblygu rhagoriaeth i bawb, a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymuned ac a fydd yn:
• Datblygu gweledigaeth strategol sy'n parhau i yrru'r ysgolion sydd newydd ffedereiddio;
• Adeiladu ar gryfderau presennol yr ysgolion a manteisio ar y cyfle cyffrous i ddatblygu potensial disgyblion a staff ymhellach;
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o gynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, tra'n sicrhau bod diddordebau a lles disgyblion a staff wrth wraidd yr holl gynllunio;
• Ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd cymuned yr ysgol gyfan gyda'r hyder i osod a gweithio tuag at nodau uchelgeisiol;
• Arwain trwy esiampl - gydag uniondeb, creadigrwydd, gwytnwch, a chynhesrwydd - gan ddefnyddio eu profiad, eu harbenigedd a'u sgiliau eu hunain, a'r rhai o'u cwmpas;
• Cynnal cyfleoedd cwricwlaidd cyfoethog ac eang, gan gofleidio egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau profiadau dysgu perthnasol a phleserus i bob disgybl;
• Arddangos gweledigaeth gref, frwdfrydig a chynhwysol ac ymrwymiad i Gymreictod, yr iaith Gymraeg a diwylliant, yn unol ag ethos presennol y ddwy ysgol a'r gymuned leol.

Gyda'n gilydd fel ffederasiwn, gallwn gynnig y canlynol i chi:
• cymuned groesawgar a chynhwysol sy'n gofalu'n fawr am lwyddiant a lles ein plant a dyfodol ein hysgolion;
• tîm clos o staff sy'n ymroddedig, yn gweithio'n galed, yn ofalgar ac yn mynd y milltir ychwanegol dros ein plant bob amser;
• disgyblion sydd â gwir ymdeimlad o berthyn, sy'n barchus, yn awyddus i ddysgu, yn greadigol ac yn gallu mynegi eu hunain;
• rhieni a gofalwyr sy'n gefnogol ac yn cymryd rhan yn addysg eu plant;
• amgylchedd sy'n ddiogel, yn gadarnhaol, yn groesawgar, ac sy'n hyrwyddo ac yn dathlu llwyddiant;
• Corff Llywodraethol sydd wedi ymrwymo i welliant ac sy'n gallu gweithio'n agos gyda'r ysgolion a'r pennaeth i sicrhau bod yr holl ddisgyblion a staff yn cael y cymorth sydd ei angen i gyflawni eu potensial.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf feddu ar y CPCP. Byddem yn ystyried ymgeiswyr sydd ar garfan bresennol y rhaglen Darpar Brifathrawon.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am drafodaeth anffurfiol neu ymweld â'r ysgolion, cysylltwch â'r cadeirydd trwy e-bost i drefnu: Erica Thompson (Cadeirydd Corff Llywodraethol y ffederasiwn) erica.thompson@brobrynach.ysgolccc.cymru

Rhestr Fer: Dydd Mawrth, 7fed o Chwefror 2023

Cyfweliadau: Dydd Llun a Dydd Mawrth, 27ain a 28ain o Chwefror 2023

Cliciwch ar y ddolen isod i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud cais am y swydd hon.