MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Vale of Glamorgan, CF5 6SG
  • Testun: Gofalwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Angen gofalwr o fis Ionawr 2023 - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas

Miss R Evans
Amdanom ni
Ysgol bentref fechan yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas, gydag ethos ac amgylchedd Cristnogol croesawgar. Mae'r plant yn mwynhau dysgu, ac maen nhw’n bositif, yn hwyliog ac yn ymddwyn yn dda. Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn dechrau ar gyfnod newydd o ddatblygiad gydag Ysgol yr 21ain Ganrif sydd i fod i gael ei chwblhau yn Hydref 2023.

Am y Rôl
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais):SNPS-CARE
Manylion Cyflog: Gradd 4 PGC 5-7 £21,575 - £22,369
Oriau Gwaith / Wythnosau'r flwyddyn / Patrwm Gweithio: 15 awr 6.30am - 9am a 4.30 - 5.30pm
Prif Weithle: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas


Disgrifiad:
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas eisiau penodi Gofalwr ymarferol, cadarnhaol ac egnïol i gynorthwyo i sicrhau bod yr amgylchedd (y tu mewn ac allan) yn ddiogel, wedi'i gynnal yn dda a’i fod yn bodloni gofynion Iechyd a Diogelwch. Bydd dyletswyddau'n cynnwys diogelwch, cynnal a chadw cyffredinol, glanhau ardaloedd dynodedig a sicrhau diogelwch, trefn dda a thaclusrwydd safle'r ysgol. Mae'r ysgol hefyd yn chwilio am yrrwr bws mini ac mae cyfle i gyfuno'r ddwy swydd. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd cyn gwneud cais, cysylltwch â’r ysgol.


Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
• Sgiliau ymarferol a DIY da
• Sgiliau llythrennedd a TG sylfaenol
• Trwydded yrru lawn
• Natur gyfeillgar a chymwynasgar
• Y gallu i drefnu eich amser eich hun yn effeithiol wrth fod yn ddigon hyblyg i ymateb i geisiadau brys.
• Y gallu i gasglu gwybodaeth, datrys problemau a defnyddio eich menter eich hun.

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Miss R Evans 01446760239

Dull Dychwelyd e.e. e-bost / dychwelyd i'r ysgol: Dychwelwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i StNicholasPS@bromorgannwg.gov.uk neu i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas CF56SG