MANYLION
  • Lleoliad: Barry, Vale of Glamorgan, CF62 8YU
  • Testun: Cymraeg
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £35,166 - £47,517
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Ail yn Adran y Gymraeg

Athro Ail yn Adran y Gymraeg

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Hysbyseb – Ail yn Adran y Gymraeg

Swydd: Ail yn yr Adran Gymraeg

Pwynt/ Graddfa Cyflog: MPS1 - UPS3 & CAD 2C (£5,339)

Cytundeb: Parhaol

Oriau: Llawn amser

Hysbyseb: 21ain o Hydref

Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 26ain o Hydref, 12:00
Cyfweliadau: Dydd Gwener, 28ain o Hydref

Swydd i ddechrau: 9fed o Ionawr 2022

Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Edrychwn am athro ac arweinydd rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion.

Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.

Adran y Gymraeg

Rydym yn adran lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Cynigir ystod eang o brofiadau addysg er mwyn diwallu anghenion pob un disgybl. Mae’r pwnc yn boblogaidd fel opsiwn yn y chweched dosbarth gyda niferoedd da yn astudio’r pwnc.
Mae naw athro yn yr adran a phawb yn gyfeillgar a chefnogol iawn i'w gilydd. Rydym wrthi yn treialu cynlluniau newydd Cwricwlwm i Gymru ac yn gyffrous am y cyfle i fod yn greadigol ac i ddatblygu ein disgyblion yn ôl y 4 Diben. Cynigir ystod o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys teithiau i Wlad Belg, i ogledd Cymru i glywed siaradwyr gwadd ac ymweld â lleoliadau o bwys i'r cwrs TGAU. Addysgir y gwersi mewn ystafelloedd modern gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell.

Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio 01446 450280 neu ebost ed@bromorgannwg.org.uk

Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

JOB REQUIREMENTS
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.  
  
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg.  Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg  yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol. 

Edrychwn am athro ac arweinydd rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion.

Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol. 

Adran y Gymraeg

Rydym yn adran lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Cynigir ystod eang o brofiadau addysg er mwyn diwallu anghenion pob un disgybl. Mae’r pwnc yn boblogaidd fel opsiwn yn y chweched dosbarth gyda niferoedd da yn astudio’r pwnc.

Mae naw athro yn yr adran a phawb yn gyfeillgar a chefnogol iawn i'w gilydd. Rydym wrthi yn treialu cynlluniau newydd Cwricwlwm i Gymru ac yn gyffrous am y cyfle i fod yn greadigol ac i ddatblygu ein disgyblion yn ôl y 4 Diben. Cynigir ystod o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys teithiau i Wlad Belg, i ogledd Cymru i glywed siaradwyr gwadd ac ymweld â lleoliadau o bwys i'r cwrs TGAU. Addysgir y gwersi mewn ystafelloedd modern gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell.

Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Charlotte Dechamps yn y man cyntaf drwy ffonio 01446 450280 neu ebost cde@bromorgannwg.org.uk 