Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Through School
EIN CYFEIRIADAU:
  • Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
  • Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
  • Y Barri
  • Vale of Glamorgan
  • CF62 8YU
Amdanom Ni
Sefydlwyd yr ysgol ym Medi 2000 fel ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf y Fro ac yn bellach rydym yn ysgol 3-19 oed ers Medi 2015 ac wedi ehangu i 1400 o ddisgyblion erbyn Medi 2021.

Daw disgyblion yr ysgol yn benodol o'r Barri, ond hefyd o'r Bontfaen, Penarth a Llanilltud Fawr ac maent oll yn meddu ar safonau uchel o hunan-ddisgyblaeth a pharch at aelodau y gymuned ysgol. Mae ymroddiad y Corff Llywodraethol a phob aelod o staff at ethos Gymreig arbennig yr ysgol a safonau uchel o ddisgyblaeth yn flaenoriaeth yma. Mae ehangiad ar safle bresennol yr ysgol wedi ei orffen ym Medi 2021 i ddarparu adeilad, adnoddau a chyfleusterau o'r safon uchaf gan gynnwys cae 3G gyda llifoleuadau, neuadd chwaraeon, bloc Technoleg a chyfres o ystafelloedd dysgu ac addysgu ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain.

Cydnabuir Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ymhlith goreuon Cymru ac mae wedi ei chydnabod yn fel ysgol sydd yn hyfforddi athrawon eraill o'r sector cynradd ac uwchradd, canolfan hyfforddi i athrawon newydd gymhwysol, Ysgol Dysgu Proffesiynol ac yn Ysgol Arweiniol yn cyfrannu at ddatblygiad Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn ysgol Bartner Arweiniol gyda Prifysgol y Drindod Dewi Sant wrth hyfforddi myfyrwyr ar gychwyn gyrfa yn y byd addysgu.