MANYLION
  • Lleoliad: Swansea, All Wales, SA1 5DF
  • Testun: Staff Cyflogadwyedd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £21,732.00 - £24,493.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Rydym yn recriwtio Anogwr Cyflogadwyedd

Rydym yn recriwtio Anogwr Cyflogadwyedd

Gyrfa Cymru
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yr un mor gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar neu wyneb-yn-wyneb ag ydynt yn defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni cylch gwaith a bennwyd gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd dwyieithog, annibynnol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.

Ymysg y buddion deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn gysylltiedig ag iechyd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.

Mae ein Anogwyr Cyflogadwyedd
• yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
• yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
• yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb)i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
• yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).

Dylai Anogwyr Cyflogadwyedd fod wedi’u haddysgu i safon NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig e.e. cyngor a chyfarwyddyd, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych NVQ 3 eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at AD@gyrfacymru.llyw.cymru erbyn 9am 27/01/23. Mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Mae'r swydd-ddisgrifiad llawn, y ffurflen gais a'r ffurflen Asesu Iaith Gymraeg (os ydych yn medru siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) er mwyn gwneud cais am y swydd hon ar gael yn: https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni