MANYLION
  • Lleoliad: Llysfasi, Denbighshire, LL15 2LB
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,751 - £44,442
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Amaethyddiaeth

Darlithydd Amaethyddiaeth

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Amaethyddiaeth

Lleoliad: Llysfasi
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Graddfa Gyflog: £28,751 - £44,442 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch)

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Ddarlithydd Amaethyddiaeth i ymuno â’n tîm Cyrsiau’r Tir. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar ein safle Llysfasi.
Fel Darlithydd byddwch yn addysgu ac ysbrydoli ein dysgwyr wrth gyflwyno ystod o bynciau amaethyddol gan gynnwys hwsmonaeth da byw, busnes, rheoli llygredd ac arallgyferirio ar ffermydd. Mae ein safle Llysfasi wedi’i leoli ar fferm weithiol, gyda’r fantais o allu cyrchu’r dechnoleg ddiweddaraf yn ogystal â gweithio mewn lleoliad hardd.
Byddwch yn addysgu yn ôl amserlen, paratoi deunydd dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, ac yn cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau pan fo angen. Byddwch yn darparu arweiniad addysgol, cynorthwyo a chynnig cwnsela myfyrwyr wrth gymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso darpariaeth y cwrs.

Byddwch hefyd yn cysylltu â thiwtoriaid eraill o feysydd busnes eraill o ran adnoddau, datblygu cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, wrth gwblhau a chynhyrchu dogfennaeth i derfynau amser y cytunwyd arnynt, gan gynnwys; cofrestrai, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cwrs, dogfennaeth dadansoddi cwrs, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb.

Bydd gennych ymwybyddiaeth o bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu, a bydd gennych wybodaeth am ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo’r anghenion hynny mewn amgylchedd dysgu. Mae angen i chi arddangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol chi. Dylech fod yn agored ac ymatebol i anghenion eraill a gallu addasu’n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd.

Gofynion Hanfodol

Bod â chymhwyster Lefel 5 mewn Amaethyddiaeth o leiaf neu bwnc perthnasol addas.
Yn ddelfrydol byddwch yn athro cymwys gyda naill ai TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407 neu fod yn barod i weithio tuag at un ohonynt.
Datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu a pharatoi deunydd addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol.
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, aelod cadarn o dîm, arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.
Gallu defnyddio rhaglenni Google a defnyddio’r we a’r rhyngrwyd.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.