MANYLION
- Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
- Testun: Addysg Bellach
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: 05 December, 2022
- Dyddiad Gorffen: 28 December, 2022
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £22,658 - £26,739
- Iaith: Saesneg
This job application date has now expired.
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Anogwr Cynnydd
Lleoliad: Iâl, efallai y bydd angen teithio i safleoedd eraill y coleg
Math o Gontract: Cyfnod Penodol, llawn amser (tan Fehefin 2023)
Cyflog: £21,579 - £25,466 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Anogwr Cynnydd i ymuno â’n tîm.
Fel Anogwr Cynnydd yng Ngholeg Cambria byddwch yn gweithio ar y cyd â thîm o Anogwyr Cynnydd, y tîm cwricwlwm ehangach a gwasanaethau cymorth y coleg i sicrhau bod dysgwyr yn cael y profiadau dysgu gorau posib. Fel rhan o’r swydd hon byddwch yn rhoi cymorth i grwpiau o ddysgwyr yn ystod eu sesiynau cynnydd wythnosol a thu hwnt.
Byddwch yn gweithio gyda llwyth achosion dysgwyr i’w helpu nhw i feithrin strategaethau priodol fel y gallant barhau i gymryd rhan mewn dysgu, a'u helpu i ddod yn wydn, yn ddyfeisgar, a’u bod yn datblygu awydd i lwyddo ac am ddilyniant.
Disgwylir i Anogwyr Cynnydd yng Ngholeg Cambria, ynghyd â thîm ehangach y cwricwlwm, fonitro presenoldeb, gosod targedau, cysylltu â rhieni a gofalwyr a gweithredu fel eiriolwr y dysgwyr wrth ymdrin ag asiantaethau mewnol ac allanol. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda eu llesiant, yn hybu iechyd meddwl cadarnhaol, ac yn eu helpu i wneud y dewisiadau bywyd cywir.
Os ydych chi'n angerddol ynghylch trawsnewid bywydau pobl ifanc, nad ydyn nhw efallai wedi cael y profiad gorau mewn dysgu neu fywyd, yna hoffem gael clywed gennych chi.
Gofynion Hanfodol
● Cymwysterau hyd at Lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol
● Yn ddelfrydol, byddwch yn athro cymwysedig gyda chymwysterau naill ai TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407 neu fod yn barod i weithio tuag at eu hennill.
● Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn Lefel 2 neu'n uwch.
● Byddwch yn gallu defnyddio rhaglenni MS Office ac yn ddelfrydol rhaglenni Google a defnyddio'r rhyngrwyd.
● Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc.
● Mae’n hanfodol fod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, eich bod yn aelod cadarn o dîm a’ch bod yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.