MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd Drama ac Astudiaethau Theatr Llawn Amser

Darlithydd Drama ac Astudiaethau Theatr Llawn Amser

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Drama ac Astudiaethau Theatr Llawn Amser
Lleoliad: Chweched Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £27,382 i £42,326 . Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Colofnau Cyflog Uwch.

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Drama ac Astudiaethau Theatr i gyflwyno ein cyrsiau Drama ac Astudiaethau Theatr UG a Safon Uwch ochr yn ochr â’r cymhwyster Her Sgiliau Uwch/Bagloriaeth Cymru.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd mewn darlithio Drama fel pwnc a meddu ar addysg hyd at lefel gradd.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.

Gofynion Hanfodol
● Cymhwyster lefel 6/lefel gradd o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
● Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
● Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w harfer
● Sgiliau Llythrennedd Digidol Da
● Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro/Athrawes Addysg Bellach hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.