MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Ychwanegol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,554 - £19,554
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu wedi'i ariannu'n ganolog ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (Anawsterau Cymdeitha

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu wedi'i ariannu'n ganolog ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (Anawsterau Cymdeitha

Rhondda Cynon Taf
ADDYSG A GWASANAETHAU CYNHWYSIANT RHONDDA CYNON TAF

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu wedi'i ariannu'n ganolog ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol)

Wedi'i gyflogi gan y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, wedi'i leoli yn Ysgol Nantgwyn

Cyflog: Gradd 6 - £24,0546 x 76.82% ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig (£1,401 x 76.82%)

32.5 awr yr Wythnos - tymor yr ysgol yn unig

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi cynorthwy-ydd cymorth/cynnal dysgu sy'n meddu ar y sgiliau priodol.

O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl:

• eich bod chi'n arddangos agwedd bositif a sicrhau lles y disgyblion sy'n ganolog i bopeth y maen nhw'n ei wneud
• bod profiad sylweddol gyda chi o gynnig cwricwlwm blaengar ac ysgogol sy'n caniatáu i bob disgybl gyflawni eu gorau glas.
• Eich bod chi wedi derbyn, neu'n fodlon derbyn, hyfforddiant arbenigol sy'n berthnasol i fagwraeth, ymlyniad a thrawma y rhan o'i ddatblygiad proffesiynol.
• Mae'r dosbarth yn rhoi cymorth i 12 o ddisgyblion 11-16 oed.
• Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwy-ydd dysgu.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Kate Hill yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, rhif ffôn 01443 744333

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 9 Rhagfyr 2022 am 12.00pm (canol dydd).

Mae modd dod o hyd i ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd drwy wefan Recriwtio'r Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/appcentre-3/candidate. Nodwch – i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.