MANYLION
- Lleoliad: Pencoed, Bridgend, CF35 5LG
- Testun: technegydd
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £20,413 - £21,846
- Iaith: Dwyieithog
This job application date has now expired.
Credwn fod gan bob person y cyfle i fod y gorau y gallant fod am ei hunan a’r gorau y gallant fod i eraill. Mae Coleg Penybont yn cynnig cyfle unigryw i weithio mewn amgylchedd lle gallwch addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a’i harwain iddynt fod y gorau y gallant.
Pwrpas y swydd: Cefnogi’r tîm darparu, paratoi deunyddiau ac adnoddau dysgu, a chynnal a chadw gweithdai, offer ac adnoddau er mwyn cynorthwyo gyda darpariaeth hyfforddiant effeithlon ac effeithiol.
Byddwch yn cynnal a chadw’r holl systemau, offer, taclau, offerynnau a chymhorthion dysgu i sicrhau bod rhaglenni dysgu’n gweithredu’n effeithlon. Bydd hyn hefyd yn cynnwys paratoi a chynnal gweithdai, labordai ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer amryw o waith dosbarth, arddangosiadau, gwaith arbrofol a sesiynau ymarferol ar gyfer amryw o gyrsiau.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
JOB REQUIREMENTS
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 o leiaf gyda phrentisiaeth gydnabyddedig mewn Peirianneg Fecanyddol. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gweithdy peiriant cyffredinol, gan gynnwys cynnal a chadw ac atgyweirio amrywiaeth o beiriannau. Yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu perthynas â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fe fyddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.