MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Rheolwr Ardal Cwricwlwm
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £42,653 - £44,047
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Rheolwr Cynorthwyol Maes Dysgu - Sgiliau Byw’n Annibynnol

Rheolwr Cynorthwyol Maes Dysgu - Sgiliau Byw’n Annibynnol

Coleg Gwyr Abertawe

Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi'r Rheolwr Maes Dysgu mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS). Mae gan y Maes Dysgu gwricwlwm newydd heb ei achredu dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y 4 piler; Cymuned, Iechyd a Lles, Cyflogadwyedd a ILS.

Mae’r pileri, ynghyd â chymwysterau priodol a’r cyfle i ddatblygu llythrennedd a rhifedd, yn creu cwricwlwm deinamig a hyblyg i fyfyrwyr yn amrywio o gyn-fynediad hyd at TGAU.

Bydd y Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol yn cefnogi’r Rheolwr Maes Dysgu i arwain tîm mawr o staff sicrhau bod y safonau ansawdd uchaf yn cael eu gwreiddio yn y ddarpariaeth. Gyda ffocws clir ar wella cadw, cyrhaeddiad a chanlyniadau llwyddiannus, byddwch yn cynorthwyo gyda chynllunio, trefnu a datblygu’r cwricwlwm tra hefyd yn cyfrannu at reoli staff a dysgwyr.

Bydd gennych radd neu’r cyfwerth mewn disgyblaeth gysylltiedig â chymhwyster addysgu (TAR neu’ch cyfwerth) ac, yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar radd uwch/ôl-raddedig mewn Arwain a Rheoli, neu byddwch yn barod i weithio tuag at un.

Bydd cael profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad addysgol anghenion dysgu ychwanegol yn ddymunol iawn. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys ymrwymiad addysgu o fewn yr adran ILS.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all ddod ag arloesedd, egni ac agwedd gallu gwneud, gyda chefnogaeth gwybodaeth helaeth o anghenion dysgu ychwanegol.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).