MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,639 - £31,149
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2022 12:10 y.b

This job application date has now expired.

Asesydd - Peirianneg Drydanol

Asesydd - Peirianneg Drydanol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Asesydd - Peirianneg Drydanol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £27639-£31149.00

Mae gennym swydd wag ar gyfer asesydd Peirianneg Drydanol. Prif bwrpas y swydd yw darparu ystod o wasanaethau i gynorthwyo gydag asesu rhaglenni NVQ neu raglenni tebyg yn y gwaith. Fel Asesydd yn y Gwaith, bydd gofyn i chi asesu nifer o wahanol feysydd. Byddwch hefyd yn cofrestru myfyrwyr ar gyrsiau addas ac yn darparu cyfleoedd annog, mentora a dysgu iddynt. Byddwch yn asesu portffolios ymgeiswyr ac yn cyflwyno’r rhai sydd wedi’u cwblhau i’w dilysu’n fewnol. Byddwch yn monitro cynnydd ymgeiswyr tuag at ennill eu cymwysterau, gan roi adborth adeiladol iddynt a’u helpu i lunio portffolio o dystiolaeth.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny

Gyda chymhwyster perthnasol proffesiynol ar Lefel 3 o leiaf

Yn hunangymhelliad, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun

Mae’n hanfodol bod gennych chi drwydded yrru ddilys a’ch cludiant eich hun

Gallu defnyddio cyfrifiaduron

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.