MANYLION
  • Lleoliad: Llysfasi, Denbighshire, LL15 2LB
  • Testun: Swyddog Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £23,192 - £24,937
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2022 12:24 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Preswyl Ieuenctid (Llety)

Swyddog Preswyl Ieuenctid (Llety)

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Preswyl Ieuenctid (Llety)

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Parhaol, Rhan-amser

Cyflog: £23,192 - £24,937 pro rata

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn bwriadu recriwtio 2 swythog ieuenctid rhan amser yn barhaol, ar ein safle Llysfasi.

Fel rhan o’r swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am wella’r gwasanaeth a phrofiad myfyrwyr ar gyfer y dysgwyr sy’n aros yn yr Hostel. Hefyd bydd gofyn i chi gynnal gweithgareddau a gwaith gweinyddu’r hostel yn ogystal â sicrhau bod yr holl ddogfennau Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal sy’n unol ag argymhellion cyfreithiol AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) wedi’u diweddaru a’u cynnal.

Rhan-amser yw’r oriau - ar rota 2 wythnos lle bydd gwaith nos Sul 7pm-11pm (gyda chysgu i mewn tan 8:30am), nos Lun 4:30pm-11pm (gyda chysgu i mewn tan 8:30am), nos Fawrth 4:30pm-11pm (gyda chysgu i mewn tan 8:30am), nos Fercher 4:30pm-11pm (gyda chysgu i mewn tan 8:30am), nos Iau 4.30pm-11pm (gyda chysgu i mewn tan 8:30am)

Chi fydd cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr a byddwch yn gyfrifol am ddiogelu cyfeiriadau, ymyriadau a phryderon, gan gynnwys cysylltu ag asiantaethau priodol a chynorthwyo rhwydweithiau. Byddwch hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad ble fo angen.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster sy’n ymwneud â Gwaith Ieuenctid
TGAU Gradd C neu uwch mewn Llythrennedd a Rhifedd
Profiad o weithio gyda phobl ifanc
Cymhwyster Diogelu Lefel 2
Trwydded yrru lawn
Gwytnwch personol ardderchog
Gallu ymdrin â sefyllfaoedd sensitif
Empathi wrth ymdrin ag eraill