MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Swyddog Cyflogadwyedd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 12 December, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,003 - £26,273
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Ionawr, 2023 11:46 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Adolygu a Lleoli

Swyddog Adolygu a Lleoli

Coleg Cambria
Teitl y Swydd: Swyddog Adolygu a Lleoli

Lleoliad: Safleoedd amrywiol y coleg

Math o Gontract: Cyfnod Penodol, llawn amser (che mis)

Cyflog: £26,273 - £28,546

Mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Adolygu a Lleoli yn ein Cyfarwyddiaeth Dysgu Sylfaen, SBA a Thwf Swyddi Cymru+

Yn atebol i: Cyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru +

Trosolwg o’r Swydd:

Bydd y Swyddog Adolygu a Lleoli yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i recriwtio dysgwyr ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar draws safleoedd amrywiol y coleg (neu leoliadau eraill fel y nodir). Byddant yn darparu cymorth bugeiliol i ddysgwyr a fydd yn cynnwys ymgysylltu’n helaeth ag amrywiaeth o asiantaethau cymorth ac atgyfeirio arbenigol. Byddant yn gwneud gwaith marchnata effeithiol i gyflogwyr lleol er mwyn canfod a sicrhau cyfleoedd gwaith a lleoliadau i ddysgwyr gael mewnwelediad i sectorau penodol yn y diwydiant a masnach.

Byddant yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i wneud yn siŵr bod lleoliadau’n cael eu sicrhau yn unol â meysydd galwedigaethol fel y cynghorir gan y MA.

Byddant yn sicrhau eu bod yn rheoli llwyth achosion yn effeithiol, ac adolygu dysgwyr mewn lleoliad/neu amgylchedd dysgu i fonitro cynnydd yn erbyn amcanion gosodedig y cytunwyd arnynt (fel y nodir yng ngofynion cytundebol Llywodraeth Cymru). Hefyd byddant yn ymgymryd â’r camau unioni priodol i sicrhau cyflawniad.

Bydd y Swyddog Adolygu a Lleoli yn cyfrannu at gyflawni amcanion a thargedau sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun gweithredol dysgu yn y gwaith.

Gofynion Hanfodol

Sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn

Sgiliau Cyfathrebu a TGCh da

Profiad blaenorol o gysylltu â chyflogwyr

Profiad perthnasol o weithio gyda grŵp cleientiaid

Rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol ac yn llwyddiannus er mwyn cyflawni targedau heriol

Hyrwyddo a gweithredu ymarferol iach a diogel

Trwydded yrru lawn, cerbyd addas gydag yswiriant busnes

Adnabod pwysigrwydd gofal bugeiliol



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. 

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau.  Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.