MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Swyddog Datblygu Chwaraeon
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Pêl-droed Gôl-geidwaid (Academi Pro Direct De Cymru)

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer hyfforddwr pêl-droed sy'n frwd dros ddatblygu sgiliau a hyder pêl-droedwyr ifanc. Rydyn ni’n chwilio am Hyfforddwr Gôl-geidwad Pêl-droed i gefnogi gwaith ein rhaglen Academi Pro Direct rhagorol.

Trwy weithio ochr yn ochr â’r Prif Hyfforddwr Pêl-droed, byddwch yn gyfrifol am hyfforddi pob gôl-geidwad ar draws pob un o’r timau. Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Hyfforddwr Gôl-geidwad UEFA B ynghyd â mynychu sesiynau hyfforddi naill ai ar:

ddydd Llun 12pm - 2 pm yng Nghanolfan Chwaraeon Bae Abertawe neu
ddydd Mawrth 1:15pm - 3:00pm yng Nghanolfan Chwaraeon Bae Abertawe

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn angerddol am ddatblygu sgiliau cadw gôl chwaraewyr o bob safon.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1)