MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Hyfforddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,061 - £26,149
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Cynghorydd Llyfrgell

Cynghorydd Llyfrgell

Coleg Gwyr Abertawe
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn chwilio am berson brwdfrydig gyda sgiliau gofal cwsmer rhagorol ac agwedd gadarnhaol tuag at waith mewn amgylchedd dysgu prysur ac weithiau heriol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi dysgwyr yn gyntaf mewn perthynas â’i waith ac yn cefnogi eu hamrywiaeth eang o sgiliau a galluoedd. Bydd gan ymgeiswyr y gallu i:

• Gyfathrebu’n rhagweithiol â staff i ddeall anghenion dysgwyr;
• Creu a chyflwyno sesiynau gwybodaeth am sgiliau i ddiwallu’r anghenion hynny;
• Cefnogi dysgwyr ar sail un-i-un ac yn yr ystafell ddosbarth;
• Hyrwyddo gwasanaethau ac adnoddau’r llyfrgell mewn ffyrdd effeithiol ac arloesol i addysgu staff a dysgwyr;
• Goruchwylio a hybu gweithgareddau tîm Llyfrgell Gorseinon. Mae’r gallu i weithio’n effeithiol mewn tîm yn hanfodol.

Bydd gan ymgeiswyr allu i annog dulliau dysgu cydweithredol a byddant yn medru sicrhau bod dysgwyr yn gallu mynd i le tawel i wneud gwaith.

Anogir diddordeb gweithredol mewn technolegau digidol a datblygiadau newydd mewn technolegau a dysgu. Croesewir hefyd y gallu i gyfathrebu ac ysgogi dysgwyr i ddefnyddio rhai llwyfannau digidol a dysgu ar-lein.

Disgwylir i wybodaeth fanwl o stoc ac anghenion dysgwyr ddatblygu ymhen amser. Yn yr un modd, mae pryder am amgylchedd ffisegol y llyfrgell hefyd yn anghenraid er mwyn sicrhau y gwneir y mwyaf o brofiad y dysgwr.

Byddai croeso arbennig i unrhyw brofiad o wella hygyrchedd i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa ar ein gwasanaethau.
Mae gradd neu gymhwyster Lefel 5 yn hanfodol ynghyd â phrofiad o addysgu neu gyfarwyddo mewn amgylchedd ystafell ddosbarth. Mae cymhwyster Llyfrgell ar y lefel hon yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Mae'r gallu i yrru a theithio rhwng campysau yn ofyniad hanfodol yn ogystal â'r gallu i weithio gyda'r nos fel rhan o rota.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).