MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 31 October, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,899 - £22,775
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Ionawr, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Gweinyddwr Arholiadau

Gweinyddwr Arholiadau

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Gweinyddwr Arholiadau

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol (Hydref 2023)

Cyflog:  £21,899 - £22,775

Mae Coleg Cambria bellach yn chwilio am Weinyddydd Arholiadau i ymuno â’i dîm Arholiadau sy’n seiliedig ar ei safle Glannau Dyfrdwy. 

Fel Gweinyddydd Arholiadau, byddwch yn gyfrifol am wirio a mewnbynnu/diweddaru data’n gywir i System Rheoli Gwybodaeth y Coleg. Yn ogystal â hynny, byddwch yn diweddaru data ar systemau allanol fel rhai Cyrff Dyfarnu a’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr, yn ôl y gofyn. Mae’n bwysig eich bod yn cynnal gwybodaeth sylfaenol o ofynion GDPR a Pholisïau a Gweithdrefnau Diogelwch Gwybodaeth y Coleg i sicrhau bod yr holl brosesu a rhannu data yn unol â'r ddau yma.

Gofynion Hanfodol

●    Cymwysterau Lefel 2 Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfwerth

●    Cymhwyster NVQ Gweinyddu Busnes Lefel 2 o leiaf

●    Profiad gweinyddol diweddar mewn amgylchedd swyddfa brysur

●    Dealltwriaeth sylfaenol o GDPR a phwysigrwydd Diogelwch Gwybodaeth.

●    Gallu dangos lefel uchel o gymhwysedd TG

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.