MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Swyddog Gweinyddol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol
Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol - Llawn Amser
Cyflog: £23,598 - £25,374

Rydym yn chwilio am Bartner Busnes Cyllid Cynorthwyol i ymuno â’n tîm Cyllid ar ein safle yn Llaneurgain. Fel Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli systemau ariannol, paratoi cyfrifon ariannol a rheoli a dadansoddi gwybodaeth cyfrifeg ariannol a rheolaethol o fewn y swyddogaeth Gyllid i gyflwyno gwasanaeth Partneru Busnes ar draws holl feysydd y Coleg.

● Cynorthwyo i baratoi cyfrifon rheoli a rhagolygon misol prydlon.
● Datblygu systemau a thechnegau rheoli cyllideb priodol yn y Coleg, gan ddarparu cymorth priodol i ddeiliaid cyllidebau ar draws y Coleg
● Monitro, paratoi a chyhoeddi adroddiadau cyllideb misol a gwybodaeth ymrwymo
● Gweithio'n agos gyda Deiliaid Cyllideb i ddadansoddi amrywiannau ac archwilio problemau a chyfleoedd posibl gan wneud argymhellion priodol a chynghori ar yr effaith ariannol ar y Coleg.
● Cefnogi’r Partner Busnes Cyllid i weithredu gwasanaeth Partneru Busnes ar draws holl feysydd y Coleg
● Cynorthwyo gyda'r gwaith misol o fonitro a rhagweld cyllidebau staff a delir fesul awr.
● Casglu gwybodaeth monitro Cyllideb Ddatganoledig yn fisol gan Reolwyr a chrynhoi.
● Cynorthwyo i baratoi cyfrifon terfynol diwedd blwyddyn yn unol â’r holl ganllawiau perthnasol a gofynion statudol ar gyfer y Coleg
● Mynd i gyfarfodydd gyda chydweithwyr, staff a rheolwyr i drafod cyllidebau a rhagolygon datganoledig.
● Cwblhau datganiadau ariannol ac ystadegol ar gyfer gofynion rheoli ac adrodd allanol yn ôl yr angen.
● Monitro cofnodion ariannol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau a’r gweithdrefnau ariannol
● Paratoi a chysoni cysoniadau banc misol yn ôl yr angen
● Cynorthwyo gyda llunio gweithdrefnau a systemau ariannol.
● Sicrhau cywirdeb data trafodion a phrosesu ailgodi tâl ar ganolfannau cost priodol yn amserol.
● Ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol gweinyddu swyddfa i gynorthwyo gyda’r swyddogaeth Cyllid.
● Defnyddio dull sy’n “canolbwyntio ar wasanaeth” i’r holl staff a’r cwsmeriaid sy’n gywir, prydlon ac yn hawdd ei ddefnyddio
● Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i’r swydd
Gofynion Hanfodol
● Cymhwyster Lefel 4 mewn Technegydd AAT
● Yn gymwys mewn graddau TGAU A-C mewn Saesneg a Mathemateg.
● Gallu defnyddio rhaglenni Google a Microsoft Office yn enwedig Word, Excel a PowerPoint. Gallu llywio’r Rhyngrwyd a Mewnrwydi hefyd
● Gallu gweithio fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen.
● Gallu cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd.
● Sgiliau trefnu rhagorol
● Sgiliau rheoli amser rhagorol.
● Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar.
● Gallu dangos gwytnwch personoler mwyn ymdopi ag ystod o sefyllfaoedd anodd
● Rhagweithiol a hunanysgogol
● Gallu ysgwyddo cyfrifoldeb personol am gyflwyno gwaith o safon uchel.
● Adnabod cyfleoedd i wella a datblygu arferion presennol
● Gallu dangos ymrwymiad trwy weithredoedd i Weledigaeth, Cenhadaeth, Gwerthoedd Craidd ac Ymddygiadau’r coleg.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.