MANYLION
- Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
- Testun: Goruchwyliwr Clawr
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Fesul awr
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2022 11:45 y.p
This job application date has now expired.
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Goruchwyliwr Llanw Bwyd a Diod
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Telir Fesul Awr, Gwaith Achlysurol, Oriau Hyblyg yn ôl y Gofyn (Cyfnod Penodol)
Cyflog: £13.19-£13.65 (Cyfradd fesul awr + Cyfradd gwyliau)
Mae gan Goleg Cambria gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm yn ein Bwyty ar ein safle Iâl. Rydym yn chwilio am 2 Oruchwyliwr Llanw Bwyd a Diod. Fel Goruchwyliwr Llanw Bwyd a Diod byddwch yn gyfrifol am gyfrannu at ddarparu gwasanaeth bwyd a diod rhagorol i’r holl westeion sy’n defnyddio’r bwytai. Bydd angen sicrhau safonau cyflwyno rhagorol a bod mannau’n cael eu cynnal i’r lefelau uchaf o ran glendid a hylendid a moethusrwydd bob amser.
Mae’r swydd hon i gyflenwi absenoldeb salwch, gwyliau a chynnal gweithrediadau’r bwyty yn ystod hanner tymor ac yn ystod y gwyliau Haf.
Mae manteision gwethio yng Ngholeg Cambria yn cynnwys cynllun pensiwn rhagorol, cydbwysedd gwych rhwng gwaith a bywyd, 28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â gŵyl y banc a hyd at 5 diwrnod dros gyfnod y Nadolig gyda Bwyty Iâl ar gau dros gyfnod gwyliau’r Nadolig. Byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn ac mae nifer o gyfleoedd i symud ymlaen gyda’ch gyrfa. Mae hefyd gostyngiad o 20% oddi ar fwyd a diod ym Mwyty Iâl.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Fwyty Iâl ar ialrestaurant.co.uk neu dewch o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol @ialrestaurant.
Gofynion Hanfodol
● Tystysgrif Lefel 2 Hylendid Bwyd
● Safon dda mewn llythrennedd a rhifedd
● Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, tact a doethineb
● Profiad amlwg o ddarparu gwasanaeth rhagweithiol rhagorol
● Ymagwedd hyblyg at waith i fodloni gofynion newidiol y busnes a'r gyfarwyddiaeth
● Rhoi sylw i fanylion gyda sgiliau rhagorol cadw tŷ a thaclusrwydd cyffredinol
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.