MANYLION
  • Lleoliad: Barry, Vale of Glamorgan, CF62 8YU
  • Pwnc: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 09 January, 2023
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Cynradd - 2 Dymor

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Athro Cynradd
I ddechrau: Ionawr 2023
Dyddiad cau: Dydd Mercher 26ain o Hydref 11.59am
Arsylwadau a chyfweliadau: naill ai Dydd Iau y 27ain neu Gwener y 28ain o Hydref
Cyflog: Prif raddfa cyflog athrawon
Hyd: Cytundeb dau dymor

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig ac ymroddgar i ddysgu yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Rydym am benodi athro:
• sy’n ysbrydoli disgyblion brwdfrydig
• sy’n gynnes, yn gallu dangos empathi a sydd yn ofalgar o eraill
• sy’n gadarn a theg a sy’n modelu arferion rhagorol
• sydd eisiau datblygu’n broffesiynol
• yn meddu ar wybodaeth o’r byd addysg gyfredol
• sy’n fodlon ac yn hapus i gymryd risg
• sy’n athro rhagorol sy’n llawn cymhelliant a sy’n gosod disgwyliadau uchel personol ac i’r disyblion
• sy’n gallu cyfathrebu a chyd-weithio’n wych fel rhan o gymuned glos yr ysgol
• sy’n gallu sefydlu a chynnal perthynas bositif gyda rhieni a gofalwyr a’r gymuned ehangach
• sy’n deall pwysigrwydd cymryd rhan weithredol gyda gweithgareddau allgyrsiol.

Os ydych yn barod i ymgymryd â’r her ac i ddatblygu’ch gyrfa ac arbenigedd, cewch ffurflen gais oddi ar wefan e teach. Dylid dychwelyd y ffurflenni cais at Miss Becca Pugh, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Heol Colcot, Y Barri CF62 8YU erbyn y dyddiad cau.
Mae’r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Am fanylion pellach am y swydd, dylid ffonio Miss Becca Pugh ar 01446 450 280.