MANYLION
- Lleoliad: Llangefni , Isle of Anglesey, LL77 7TW
- Testun: Clerc yr Ysgol
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Fesul awr
- Iaith: Dwyieithog
This job application date has now expired.
Gwasanaeth: Dysgu
Cyflog: Graddfa 3, £10.3888 - £11.0243 yr awr
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel Uwch boddhaol.
Mae Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn yn chwilio am unigolion trefnus, brwdfrydig a hyblyg i ymuno â chronfa o Glercod sy’n darparu cefnogaeth weinyddol i gyrff llywodraethu ysgolion ledled Ynys Môn.
Rôl Clerc yw paratoi ar gyfer cyfarfodydd llywodraethwyr, cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a darparu gwasanaeth gweinyddol a chynghori llawn i Gyrff Llywodraethu ysgolion. Bydd hyn yn cynnwys mynychu tua 3 chyfarfod llywodraethwyr llawn ac amrywiaeth o bwyllgorau statudol eraill (i’w cytuno arnynt gyda Chadeirydd y Llywodraethwyr) y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd gyda’r nos fel arfer, gyda gweddill y gwaith yn cael ei wneud o adref.
Mae’r rôl yn addas ar gyfer rhywun sy’n edrych am ffordd o weithio’n hyblyg o amgylch ymrwymiadau eraill neu am rôl ran-amser, sy’n cynnig hyfforddiant llawn a chyfleoedd parhaus i ddatblygu. Mae profiad o waith gweinyddol a sgiliau cyfathrebu effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol yn ogystal â’r gallu i ddelio â gwybodaeth a data mewn modd cyfrifol a chyfrinachol.
Gweler y Swydd Ddisgrifiad am y gofynion sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod disgrifiad swydd/manylion personol fel ffeil PDF.