Cyngor Sir Ynys Mon

Isle of Anglesey County Council
Local Authority (LA)
EIN CYFEIRIADAU:
  • Cyngor Sir Ynys Mon
  • Llangefni
  • Isle of Anglesey
  • LL77 7TW
Amdanom Ni
Fel cyflogwr o ddewis, mae Ynys Môn yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, ond mae gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn yn fwy na dim ond swydd; mae'n ymwneud â gwneud bywyd yn well i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr Ynys.
Nod y Cyngor yw bod yn Gyngor profesiynol, sy'n cael ei redeg yn dda ac sy'n arloesol ac yn eangfrydig ei ymagwedd, gydag ymrwymiad i ddatblygu ein pobl a'n partneriaethau er mwyn darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol o ansawdd da sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ein dinasyddion.
Ceir 40 ysgol gynradd, 5 ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig ym Môn. Ysgolion dyddiol yn derbyn bechgyn a merched fel ei gilydd yw holl ysgolion Môn. Mae'r ysgolion uwchradd i gyd yn ysgolion cyfun cymunedol 11-18 oed.
Mae'r Cyngor eisiau i bob plentyn, unigolyn ifanc a dysgwr, lle bynnag y maent gyrraedd eu potensial a bod yn barod i chwarae eu rhan fel dinasyddion cyfrifol a phencampwyr cymunedol. Yn y cyd-destun hwn, mae'r Cyngor yn dymuno sicrhau bod ysgolion modern yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern.
Mae nifer o glybiau ieuenctid ledled yr ynys lle gall pobl ifanc o 11 oed i fyny gwrdd â'u ffrindiau i gael sgwrs, ymlacio a derbyn cefnogaeth ac arweiniad.