MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Anghenion Addysgol Arbennig
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH CYNNAL DYSGU - SEBD (WEDI'I HARIANNU'N GANOLOG) - YSGOL NANTGWYN

Rhondda Cynon Taf
GWASANAETHAU ADDYSG A CHYNHWYSIANT RHCT

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH CYNNAL DYSGU
(ANAWSTERAU CYMDEITHASOL, EMOSIYNOL AC YMDDYGIADOL) - WEDI'I HARIANNU'N GANOLOG YN YSGOL NANT GWYN

Graddfa Gyflog: Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA (£2,310)

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro/athrawes arloesol i arwain Dosbarth Cynnal Dysgu yn Ysgol Nant Gwyn o Ionawr 2023.

Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i 12 o ddisgyblion 11-16 oed.

Mae athro/athrawes a 2 Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu yn gyfrifol am y dosbarth.

Bydd disgwyl y canlynol o'r ymgeisydd llwyddiannus:
• Arddangos rhagolwg positif a sicrhau bod lles y disgyblion wrth wraidd popeth y mae ef/hi’n ei wneud.
• Bod yn angerddol am ddysgu ac addysgu a bod yn addysgwr rhagorol yn yr ystafell ddosbarth
• Bydd gyda chi brofiad sylweddol o gynnig cwricwlwm blaengar ac ysgogol sy'n caniatáu i bob disgybl wneud ei orau glas.
• Bod wedi derbyn hyfforddiant arbenigol sy'n berthnasol i fagwraeth, ymlyniad a thrawma yn rhan o waith datblygu proffesiynol, neu barodrwydd i dderbyn yr hyfforddiant yma.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kate Hill yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 20 Hydref 2022.

Mae modd dod o hyd i'r ffurflenni cais, disgrifiad y swydd a'r fanyleb person trwy ddilyn y ddolen yma sy'n cyfeirio chi at wefan Recriwtio Ysgolion https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-b184f8f01a41/candidate

Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.