MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
- Testun: Anghenion Addysgol Arbennig
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £27,491 - £42,333
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 14 Hydref, 2022 12:00 y.p
This job application date has now expired.
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) yn Ysgol Gymuned y Porth
Rhondda Cynon Taf
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) yn Ysgol Gymuned y Porth
Graddfa Cyflog Athrawon ynghyd â Lwfans AAA 1
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag anhwylder cyfathrebu yn Ysgol Gymuned y Porth ar gyfer mis Ionawr 2023.
Bydd y dosbarth yn cynnal oddeutu 10 disgybl ym Mlynyddoedd 3-6, a chaiff ei staffio gan athro a dau Gynorthwyydd Cymorth Dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus sydd ddim wedi derbyn hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Williams yn y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.
Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 14 Hydref 2022
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.
YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.