MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF24 5JW
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Rhannu swydd
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,860 - £29,430
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2022 10:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Gweithredol (Cymraeg hanfodol)

Cynorthwyydd Gweithredol (Cymraeg hanfodol)

Estyn
Fel Cynorthwyydd Gweithredol, byddwch yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth a chymorth i uwch reolwyr ac amrywiaeth o grwpiau rheoli, byrddau a phwyllgorau. Bydd eich rôl yn cynnwys cydlynu’r gwaith cymhleth o reoli dyddiaduron, cefnogi cyfarfodydd, cydlynu trefniadau teithio, treuliau a rheoli’r mewnflwch. Byddwch yn defnyddio’ch medrau cyfathrebu Cymraeg a Saesneg yn y rôl ddwyieithog hon.

Mae ein Cynorthwywyr Gweithredol yn cydweithio’n agos â’n huwch dîm a phobl ar draws Estyn. Wrth rannu’r swydd hon, byddwch yn ymwneud ag ystod o weithgareddau, gan gynnwys:

• Darparu cymorth uniongyrchol i Gyfarwyddwyr penodedig a’r Prif Arolygydd
• Darparu cymorth ysgrifenyddol ar gyfer cyfarfodydd – gan gynnwys rhaglennu amseroedd a dyddiadau cyfarfodydd, coladu a dosbarthu papurau, cymryd cofnodion a rheoli camau gweithredu
• Rheoli a chydlynu calendrau, negeseuon e-bost, gohebiaeth, trefniadau teithio a hawliadau cynhaliaeth Cyfarwyddwyr penodedig / y Prif Arolygydd
• Rheoli trefniadau domestig ar gyfer cyfarfodydd a phwyllgorau
• Diweddaru dogfennau yn ymwneud â threuliau a thaliadau cyfarwyddwyr anweithredol
• Cydlynu gwybodaeth a phapurau i’w hystyried a’u cyflwyno gan reolwyr
• Cynorthwyo â gweinyddu’r cofnod Amddiffyn Plant a thasgau cysylltiedig, gan gynnwys cyfeirio rhybuddion diogelu at y swyddogion arweiniol diogelu
• Cynorthwyo â rheoli cyfarfodydd diweddaru timau o ran diogelu
• Cynorthwyo rheolwyr i goladu a phrawfddarllen dogfennau corfforaethol
• Gweinyddu cynigion statudol yn ymwneud ag ad-drefnu ysgolion
• Cynorthwyo â rheoli prosiectau, gan gynnwys gwasanaethu cyfarfodydd grwpiau ymgynghorol, cyfarfodydd timau prosiect a Diwrnodau Cwrdd i Ffwrdd

Byddwch chi:

• yn mwynhau her baich gwaith amrywiol
• yn meddu ar hanes da o ymdopi â thasgau lluosog i fodloni terfynau amser
• yn meddu ar fedrau cyfathrebu rhagorol (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
• yn hyderus yn defnyddio TG
• yn gweithio mewn ffordd gydweithredol a hyblyg
• yn gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n newid

Mae ein pobl yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Efallai eich bod wedi gweithio mewn sefydliad mawr neu fach, mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog, yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat. Efallai eich bod yn chwilio am her newydd neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant. Mae hwn yn gyfle rhagorol i ennill profiad yn un o adrannau’r Gwasanaeth Sifil a a gwella eich medrau. Byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu a fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch medrau a’ch gyrfa.
JOB REQUIREMENTS
Mae’n hanfodol:
• bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol
• eich bod yn gallu defnyddio systemau TG yn hyderus, gan gynnwys Microsoft Office
• eich bod yn drefnus, gyda medrau rheoli amser da ,ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn amserlenni cytûn
• eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol, gan gynnwys gydag uwch reolwyr ac yn allanol
• eich bod yn gallu gweithio’n hyblyg ar draws tasgau ac ymateb i geisiadau brys ar fyr rybudd
• eich bod yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio at atebion, a bod gennych agwedd gadarnhaol, ymarferol
• eich bod yn gallu cynnal lefelau uchel o ymddiriedaeth a chyfrinachedd
• eich bod yn gallu gweithio’n gywir a bod gennych lygad craff am fanylion
• eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol ac ar eich menter eich hun, wrth gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad hefyd
• eich bod yn gallu defnyddio’ch medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar) i weithio’n ddwyieithog

Ymddygiadau allweddol

• Gweld y darlun cyflawn
• Cyfathrebu a dylanwadu
• Cydweithio
• Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
• Cyflawni’n gyflym

Oriau gwaith – Hyd at 18.5 awr y wythnos, ac eithrio egwyliau. Ar hyn o bryd, mae’r swydd yn cael ei chyflawni bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher. Rydym yn agored i drafod yr oriau (o fewn yr uchafswm) a’r diwrnodau gwaith.

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.