MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2TP
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,352 - £26,425
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

ASESYDD DYSGU SEILIEDIG AR WAITH –  MEWN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

ASESYDD DYSGU SEILIEDIG AR WAITH – MEWN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ewch i:- https://www.gllm.ac.uk/jobs

PWRPAS Y SWYDD

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn darparu hyfforddiant i fusnesau ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys cyrsiau byrion, cymwysterau proffesiynol, prentisiaethau a chyrsiau gradd. Rydym am benodi Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol - i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel i ymarferyddion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n arwain at ganlyniadau positif. Medrusrwydd galwedigaethol a phrofiad yn hanfodol. A1, TAQA neu'r hyn sy'n cyfateb hefyd yn hanfodol, er y bydd hyfforddiant a chefnogaeth i gyflawni'r rhain yn cael ei ddarparu i ymgeiswyr addas gyda'r profiad a'r sgiliau clinigol iawn. Mae'r gallu a'r parodrwydd i deithio yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, gan y bydd teithio o amrywiaeth o Leoliadau yn ofynnol ar draws Gogledd Cymru.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio fel rhan o dîm o aseswyr ym maes rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi ac asesu dysgwyr mewn amrywiol leoliadau Gofal am Oedolion, gan gynnwys - gofal Preswyl/Nyrsio/Dementia/Cartref neu leoliadau ar gyfer Oedolion ag Anableddau, problemau iechyd meddwl ac awtistiaeth. Gall hefyd fod yna angen i asesu mewn lleoliadau clinigol megis meddygfeydd Ymarferwyr Cyffredinol ac ysbytai GIG i gyflawni cymwysterau Fframwaith ar gyfer y Cymwysterau Lefel 2/3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd yr aseswr yn cynnal llwyth gwaith o ddysgwyr y byddant yn eu cefnogi drwy eu Cymwysterau wrth ddysgu yn seiliedig ar waith, gan gynnig cefnogaeth 1-1 wedi ei deilwra i'r unigolyn yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r cyflogwr i gefnogi eu hanghenion. Mae hefyd yn ofyniad gan y swydd hon fod aseswyr yn cytuno i ddiweddaru eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn unol gyda newidiadau Deddfwriaethol sector 7.

JOB REQUIREMENTS
Gweler ynghlwm