MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Ychwanegol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

CYNORTHWY-YDD CYMORTH DYSGU (WEDI'I ARIANNU'N GANOLOG) - YSGOL GYNRADD PENRHYS

Rhondda Cynon Taf
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
GWASANAETHAU ADDYSG A CHYNHWYSIANT - YSGOL GYNRADD PENRHYS

CYNORTHWY-YDD CYMORTH DYSGU (WEDI'I ARIANNU'N GANOLOG) - Dosbarth Cymorth Dysgu Cyfnod Allweddol 2 i ddisgyblion ag Anawsterau Anghenion Cymhleth

Oriau: 32.5 awr yr wythnos - Amser Tymor yn Unig

Gyflog: Gradd 6 - £22,129 x 76.82% a Lwfans Dosbarth Arbennig £1,347 (pro rata)

Angenrheidiol: cyn gynted â phosib

Mae angen Cynorthwyydd Cymorth Dysgu cyn gynted â phosibl ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo athro'r dosbarth i weithredu rhaglenni unigol a chefnogi disgyblion, yn y sylfaen ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yn Nhŷ Trevithick (01443) 744 333.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 23/09/2022.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.