MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2TP
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,352 - £26,426
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

HYFFORDDWR / ASESYDD DYSGU YN Y GWEITHLE -   ARLWYO A LLETYGARWCH

HYFFORDDWR / ASESYDD DYSGU YN Y GWEITHLE - ARLWYO A LLETYGARWCH

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/jobs

PWRPAS SWYDD:
Mae’r rôl hon yn cynnwys bod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a chwblhau llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gyfer cymhwyster Lletygarwch.

Mae’r aseswr yn goruchwylio fframwaith unigol y dysgwr. Mae hyn yn cynnwys hyfforddi, cyflwyno ac asesu gwybodaeth a chymhwysedd ymarferol dysgwr yn y gweithle neu mewn leoliad

Bydd disgwyl i’r aseswr gyflwyno amrywiaeth o gymwysterau ar lefelau 2,3 a/neu 4 yn amrywio o Goginio Proffesiynol, Gwasanaethau Lletygarwch, Cynhyrchu Bwyd a Fframwaith Trwyddedu Personol.

Mae tasgau dyddiol yn cynnwys gweithio'n annibynnol i gynllunio a threfnu ymweliadau dyddiol a chyfarfodydd wyneb yn wyneb neu o bell gyda dysgwyr. Mae angen y sgiliau ar yr aseswr i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser yn ogystal â darparu adnoddau a chefnogaeth i gwrdd ag anghenion unigol pob dysgwr yn eu dewis iaith.

Disgwylir i’r asesydd feithrin perthnasoedd effeithiol gyda chyflogwyr newydd a phresennol gan sicrhau bod eu hanghenion a'u gofynion unigol yn cael eu bodloni.

Mae'r aseswr hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y corff dyfarnu a gofynion y cymhwyster yn cael eu bodloni.

Bydd yr aseswr gweithio fel aelod o dîm aseswyr Lletygarwch Busnes@ o fewn gangen Busnes@GLLM. Bydd yr aseswr yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i’r dysgwr :
*O ansawdd uchaf posibl
*Yn darparu gwerth am arian
*Yn diwallu anghenion y cyflogwr a'r myfyrwyr dan hyfforddiant
*Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd a nodau'r coleg

JOB REQUIREMENTS
Gweler isod