MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Mentor
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,006 - £28,836
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Mentor (DSW) ac Uwch-swyddog Cydymffurfio

Mentor (DSW) ac Uwch-swyddog Cydymffurfio

Coleg Gwyr Abertawe
Byddwch yn cydymffurfio’n llawn â manylebau contract Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg yng Nghymru a Lloegr gan sicrhau, gyda’r Contract yn Lloegr, cyswllt â chyflogwyr gan roi cyngor a chyfarwyddyd ar ofynion eu cyfrif ardoll ESFA, eu cynorthwyo i ddiweddaru a chynnal cofnodion cyllid a, phan fo’n berthnasol, rheoli cyfrifon ardoll prentisiaethau ar ran y cyflogwr.

Byddwch yn chwarae rhan arweiniol o fewn y tîm Cydymffurfio â Chontractau gan ddarparu cymorth cynhwysfawr a mentora DSW i ymarferwyr, timau a phartneriaid cyflenwi (Adrannau Coleg ac Is-gontractwyr Allanol) DSW i sicrhau arfer effeithiol a hyrwyddo arfer sy’n arwain y sector.

Chi fydd Hyrwyddwr Aseswr Clyfar y Coleg, gan ddarparu rhaglenni hyfforddi a mentora sy’n ymgorffori ethos o welliant parhaus a datblygiad proffesiynol.

Byddwch yn meddu ar Ddyfarniad Aseswr Lefel 3 neu gyfwerth a chymhwyster Lefel 4 neu uwch mewn Gweinyddu Busnes neu ddisgyblaeth berthnasol. Bydd gennych hefyd TAR/TystAdd neu gymhwyster hyfforddiant cychwynnol cyfwerth a Lefel 2 (Gradd A-C) neu gymhwyster cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg.

Bydd gennych wybodaeth o sefydlu a chynnal systemau gweinyddol cywir.

Gyda phrofiad o ddatblygu aelodau tîm mewnol ac allanol, gan herio arfer gwael pan fydd angen, bydd gennych hanes profedig o ddarparu rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel.

Bydd gennych wybodaeth a phrofiad o ddefnyddio e-bortffolio ac addysgu DSW a dealltwriaeth o brosesau arolygu allanol.

Gyda rhinweddau arweinyddiaeth byddwch yn gallu cyfleu prosesau cymhleth yn syml ac yn glir, gan ddatblygu cysylltiadau gwaith ardderchog a rheoli heriau yn ddiplomatig.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.