MANYLION.
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Cyfraddau Cyflog Prentisiaethau (Yn ddilys o 1 Ebrill 2026) ● Dan 18 oed: £8.00 yr awr. ● 19 oed neu hŷn ac yn y flwyddyn gyntaf: £8.00 yr awr. ● 19 neu hŷn ac wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf: Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran.
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Prentis Technegydd Gweithdy - Peirianneg (Cytundeb 3 blynedd)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: Cyfraddau Cyflog Prentisiaethau (Yn ddilys o 1 Ebrill 2026) ● Dan 18 oed: £8.00 yr awr. ● 19 oed neu hŷn ac yn y flwyddyn gyntaf: £8.00 yr awr. ● 19 neu hŷn ac wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf: Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran.

Pwrpas y swydd

Gan weithio ar Gampws Llangefni ac yn cynorthwyo'r tîm cyflwyno Peirianneg, byddwch yn gweithio o dan arweiniad a chyfarwyddyd cyffredinol darlithwyr a'r Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol.

Eich prif rôl fydd hwyluso sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr yn y gweithdy. Mae hyn yn cynnwys paratoi ar gyfer sesiynau ymlaen llaw, gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ac offer angenrheidiol yn cael eu cael, eu trin a'u defnyddio'n ddiogel, tra'n darparu cymorth parhaus i hyfforddwyr a myfyrwyr yn ystod sesiynau yn ôl yr angen. Bydd eich cyfraniad yn hanfodol wrth greu amgylchedd dysgu diogel, effeithiol a deniadol i'r dysgwyr, y staff a'r ymwelwyr. Er bod hon yn rôl ddyddiol, bydd disgwyl i chi gymryd rhan a chefnogi staff yn ystod unrhyw nosweithiau agored, dosbarthiadau nos neu ddigwyddiadau diwrnod agored yn ôl yr angen.

Bydd angen i'r prentis wneud cynnydd yn ei fframwaith Prentisiaeth Cymorth Technegol Peirianneg o fewn amserlenni cytunedig, a dangos gallu, sgil a gwybodaeth gref er mwyn cyflawni cymhwyster proffesiynol Lefel 3. Caiff hyn ei fonitro trwy adolygiadau misol gyda mentor ac asesydd NVQ.

Mae'r rôl wedi'i hanelu at unigolion sydd â awydd cryf i helpu eraill mewn lleoliad ymarferol a galwedigaethol, ond sydd hefyd ag uchelgais i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth eu hunain er mwyn dilyn gyrfa bosibl mewn addysg neu ddiwydiant.

Mae campws Llangefni yn amgylchedd diwydiannol blaengar iawn sy'n cynnwys rhai o'r cyfleusterau addysgol gorau y gall coleg Addysg Bellach eu darparu. Disgwylir i chi ymgymryd â dyletswyddau, yn bennaf, yn ein gweithdai Cerbydau Modur a Weldio yn unol â chyfarwyddyd eich rheolwr llinell a'r staff addysgu. Gall hefyd fod cyfle neu ofyniad i gynorthwyo yn ein prif weithdai Peirianneg STEM yn ôl yr angen.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/098/26

Cyflog
Cyfraddau Cyflog Prentisiaethau (Yn ddilys o 1 Ebrill 2026) • Dan 18 oed: £8.00 yr awr. • 19 oed neu hŷn ac yn y flwyddyn gyntaf: £8.00 yr awr. • 19 neu hŷn ac wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf: Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran.

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
04 Rhag 2026
12:00 YH(Ganol dydd)