MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Gofal Anifeiliaid

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Gofal Anifeiliaid
Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Telir Fesul Awr, Gwaith Achlysurol, Oriau Hyblyg Ad hoc
Graddfa Gyflog: £24.46 - £37.82 (Cyfradd yr awr / Cyfradd gwyliau) Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Darlithydd mewn Gofal Anifeiliaid i ymuno â’u tîm Gofal Anifeiliaid yn Llaneurgain.
Fel Darlithydd Gofal Anifeiliaid byddwch yn gyfrifol am gyflwyno cyrsiau Mynediad i Lefel 5 ac yn arwain a chefnogi dysgwyr mewn modd cadarnhaol a phroffesiynol. Rydym yn chwilio am rhywun sy’n gallu arddangos angerdd am y pwnc ac sy’n gallu cadw’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yn y maes pwnc.
Gofynion Hanfodol
Cymwys i lefel 6 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
Profiad blaenorol o ddarparu Gofal Anifeiliaid mewn amgylchedd addysg bellach.
Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anabledd’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.