MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro (Dros dro) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Dros dro - I gychwyn Ionawr 2027

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi athro neu athrawes llawn cymhelliant, egni a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol. Rydym yn ysgol Gymraeg gynhwysol a blaengar sy'n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a maethlon sy'n dathlu unigoliaeth pob plentyn.

Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy'n:

Meddu ar gymhwyster addysgu perthnasol ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Yn rhugl yn y Gymraeg.

 phrofiad diweddar o addysgu yn y Cyfnod Cynradd.

Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru ac arferion addysgu effeithiol.

Yn gallu creu amgylchedd dysgu hapus, heriol ac effeithiol.

Yn gwerthfawrogi gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, rhieni, staff a'r gymuned ehangach.

Yn gallu gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm a chyfrannu'n llawn at fywyd yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Cynllunio a darparu profiadau dysgu cyfoes ac ysgogol.

Monitro, asesu a chefnogi cynnydd pob dysgwr.

Gosod disgwyliadau uchel o ran ymddygiad, cyflawniad a lles.

Rheoli a chefnogi staff cymorth yn effeithiol.

Cyfrannu at weithgareddau allgyrsiol a datblygiad parhaus yr ysgol.

Chwarae rhan lawn ym mywyd cymuned yr ysgol a hyrwyddo ein hethos a'n gweledigaeth.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag ysgol sy'n rhoi lles, cynnydd a chyflawniad pob plentyn wrth galon popeth a wnawn. Os ydych yn addysgu gyda angerdd, creadigrwydd ac uchelgais, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Rhagfyr 2026

Arsyllu gwersi: 16 Rhagfyr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 17 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person