MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £19,546-£20,183 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Dysgu (Dros dro) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £19,546-£20,183 y flwyddyn

30 awr yr wythnos x 2 swydd ar gael

Tymor yr Ysgol

Dros dro - i gychwyn 04.01.26

I gychwyn Ionawr 2027

O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn ysgol Gymraeg flaengar sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wireddu ei botensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff addysgu i gefnogi dysgu disgyblion ac i gyfrannu at gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
  • â phrofiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad addysgol neu debyg;
  • yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff a rhieni;
  • yn gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm;
  • â sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh da;
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd dyletswyddau'r rôl yn cynnwys:
  • cefnogi dysgu disgyblion unigol a grwpiau bach;
  • cynnal gweithgareddau dysgu strwythuredig;
  • monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth i athrawon;
  • cynorthwyo gyda goruchwyliaeth yn ystod amseroedd chwarae a gweithgareddau ysgol;
  • cyfrannu at greu amgylchedd dysgu diogel, trefnus a chefnogol.

Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Rhagfyr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 14 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person