MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Tondu Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : Graddfa Arweinyddiaeth L1 £52,680 - L5 £58,136 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cydlynydd ADY - Ysgol Gynradd Tondu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L1 £52,680 - L5 £58,136 y flwyddyn
Yn ofynnol i ddechrau ar unwaithDros dro hyd at 31 Awst 2027
Mae Ysgol Gynradd Tondu yn falch o'i hethos cynhwysol a'i hymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, teuluoedd a'r gymuned ehangach. Rydym yn awyddus i benodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) brwdfrydig ac ymrwymedig, ar secondiad, i ymuno â'n tîm cynhwysol, cefnogol ac ymroddedig.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i CADY profiadol, neu ymarferydd profiadol sydd â diddordeb cryf mewn cynhwysiant ac anghenion dysgu ychwanegol, ddatblygu ei sgiliau arwain mewn cymuned ysgol groesawgar ac uchelgeisiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cefnogaeth dda yn ei rôl a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pob disgybl yn gallu ffynnu a chyflawni ei lawn botensial.
Yn Ysgol Gynradd Tondu, mae cynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn falch o'n dull meithringar, ein perthynas gref â theuluoedd, a'n hymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno i lwyddo.
Rydym yn chwilio am ymarferydd ac arweinydd sydd:
Yn ymarferydd dosbarth cryf ac effeithiol, â phrofiad ar draws y cyfnod cynradd;
 phrofiad perthnasol o ADY ac ymarfer cynhwysol;
Yn angerddol am degwch, llesiant, a galluogi pob disgybl i lwyddo, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;
Yn meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i ysbrydoli ac ysgogi eraill;
Yn hyblyg, yn frwdfrydig, ac yn fyfyriol, bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella;
Yn gallu gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Dros Dro, yr Uwch Dîm Arwain a'r Llywodraethwyr i fwrw ymlaen â blaenoriaethau strategol;
Yn awyddus i dyfu a datblygu fel ymarferydd ac arweinydd drwy'r rôl hon.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
Tîm croesawgar, ymrwymedig gyda gweledigaeth a rennir a gwerthoedd cryf;
Diwylliant o gydweithio, ymddiriedaeth, ac uchelgais;
Arweinyddiaeth gefnogol a chyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus;
Y cyfle i arwain ar faes hanfodol o ran gwella'r ysgol, gydag effaith ar draws yr ysgol gyfan;
Cymuned ysgol lle mae cynhwysiant nid yn unig yn egwyddor, ond yn arfer dyddiol.
Mae croeso i ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â phartner gwella'r ysgol, Jonathan Lewis, drwy anfon e-bost at jonathan.lewis1@bridgend.gov.uk i drefnu trafodaeth anffurfiol am y rôl.
Croesewir cyfleoedd secondiad ar gyfer y swydd wag hon.
Noder: Rhaid i ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y cyfle secondiad hwn geisio a chael caniatâd eu Pennaeth i gael eu rhyddhau o'u swydd bresennol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y rôl cyn gynted â phosibl, drwy drafodaeth â'i ysgol bresennol.
Gwahoddir darpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais. Cynhelir sesiwn agored ddydd Iau 26 Tachwedd 2026 am 16:00. Os hoffech ddod, anfonwch e-bost at admin@tondups.bridgend.cymru i gadarnhau y byddwch yn bresennol.
Edrychwn ymlaen at groesawu gweithiwr proffesiynol brwdfrydig ac ymroddedig i dîm Ysgol Gynradd Tondu.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 08 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person