MANYLION.
  • Lleoliad: Barry Campus,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Fesul awr
  • Cyflog : £23.58 - £46.39 per hour. Dependent on qualifications and experience.
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 26 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd - Harddwch, Cyflog fesul Awr (PTHP)13120

Coleg Caerdydd a'r Fro

Cyflog: £23.58 - £46.39 per hour. Dependent on qualifications and experience.

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Ddarlithydd Cyflogedig fesul Awr (PTHP) brwdfrydig, gwybodus ac ymroddedig ym maes Harddwch i gefnogi'r gwaith o ddarparu a datblygu ein darpariaeth Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol Cyfannol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm a chyfrannu at ddarparu ein rhaglen Mynediad i Estheteg Lefel 3, gan gefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol a'r hyder sydd eu hangen i symud ymlaen yn y diwydiant estheteg a'r diwydiant harddwch ehangach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglenni ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn bennaf, gan ein helpu i ymateb i'r galw cynyddol am gyrsiau Mynediad i Estheteg a chynnig cyfleoedd i ddarpar ddysgwyr symud ymlaen â'u haddysg a'u gyrfaoedd.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

  • Cynllunio a darparu sesiynau addysgu a dysgu diddorol o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr sy'n dilyn rhaglen Mynediad i Estheteg Lefel 3.
  • Cefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth sylfaenol, y sgiliau ymarferol a'r ddealltwriaeth broffesiynol sydd eu hangen i symud ymlaen yn y diwydiant estheteg.
  • Darparu sesiynau diddorol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, sy'n diwallu anghenion dysgu unigol ac yn hyrwyddo cyflawniad a dilyniant.
  • Asesu perfformiad dysgwyr, darparu adborth adeiladol a monitro cynnydd er mwyn cefnogi canlyniadau llwyddiannus.
  • Cadw cofnodion cywir o ddysgwyr, dogfennaeth asesu a gwaith gweinyddol cysylltiedig â'r cyrsiau.
  • Cyfrannu at ddatblygu a darparu cyrsiau ychwanegol a gweithgareddau masnachol o fewn yr adran Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol Cyfannol.
  • Hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol, gan sicrhau y cynhelir y safonau perthnasol o ran iechyd, diogelwch ac arferion y diwydiant.
  • Cydweithio â chydweithwyr i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cwricwlwm, profiad y dysgwyr a datblygiad parhaus y ddarpariaeth.


Amdanoch chi

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a medrus ym maes harddwch, gyda phrofiad perthnasol yn y diwydiant a'r gallu i rannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd drwy addysgu diddorol ac effeithiol.

Bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o'r sector harddwch ac estheteg, ynghyd â'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth bynciol sydd eu hangen i ddarparu rhaglen Mynediad i Estheteg Lefel 3. Bydd gennych angerdd dros gefnogi dysgwyr, sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, a'r gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr i gyflawni eu potensial.

Mae agwedd hyblyg ac addasadwy yn hanfodol, gan y bydd y gwaith addysgu'n digwydd ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn bennaf, gyda chyfleoedd posibl i gefnogi sesiynau ychwanegol yn ystod yr haf a darparu cyflenwi ar draws yr adran yn ôl yr angen.

Pam ymuno â ni?

Byddwch yn ymuno â Choleg Caerdydd a'r Fro ar adeg gyffrous i'n darpariaeth Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol Cyfannol, gyda'r galw am ein cyrsiau Mynediad i Estheteg yn cynyddu a chyfleoedd i gyfrannu at dwf y maes arbenigol hwn.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i rannu eich arbenigedd yn y diwydiant, cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at faes darpariaeth sy'n tyfu. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol, gan helpu dysgwyr i gael mynediad at gyfleoedd newydd a symud ymlaen tuag at eu dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau cyflawn yw 26 Tachwedd 2026 am 11:59pm.

Cynigir y swydd hon ar sail cyfnod penodol er mwyn darparu cyflenwi yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth, a daw i ben ar 2 Gorffennaf 2027.

Cyfle yw hwn i weithio ar sail Cyflog fesul Awr, Rhan-amser (PTHP), gyda gwarant o o leiaf 6 awr yr wythnos rhwng mis Ionawr a mis Mai.

Y trefniadau addysgu disgwyliedig yw:
  • Addysgu ar ddydd Sadwrn: Rhaglen Mynediad i Estheteg Lefel 3, yn dechrau ddiwedd mis Ionawr, am 15 wythnos, sef 6 awr yr wythnos.
  • Addysgu ar ddydd Gwener: Rhaglen Mynediad i Estheteg Lefel 3, yn dechrau ym mis Chwefror, am 15 wythnos, sef 6 awr yr wythnos.


Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i gefnogi sesiynau addysgu ychwanegol yn ystod yr haf, yn ogystal â darparu cyflenwi hyblyg yn ôl yr angen.

Am fanylion llawn y rôl, y cyfrifoldebau a'r fanyleb person, ac i'ch helpu i gyflwyno cais, cyfeiriwch at y pecyn swydd. I gael rhagor o wybodaeth am Goleg Caerdydd a'r Fro, ewch i www.cavc.ac.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio drwy e-bostio recruitment@cavc.ac.uk .

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro. Mae'r Coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i'r broses gyfweld ac asesu gael ei chynnal yn Gymraeg.

Mae pob swydd wag yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Ni ellir dechrau cyflogaeth nes bod gwiriad DBS boddhaol a chyfredol wedi'i dderbyn. Mae Gweithdrefn y Coleg ar gyfer Asesu Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Sylwch y gall fod angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer rhai swyddi. Lle bo hyn yn berthnasol, bydd cyflogaeth yn amodol ar sicrhau a chynnal y cofrestriad priodol.

Mae cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol. Cyn y gellir dechrau cyflogaeth, rhaid i'r Coleg dderbyn dau eirda, a rhaid i un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol neu'ch cyflogwr diweddaraf. Cysylltir â chanolwyr ar ôl gwneud y penodiad.

Mae'r gwiriadau hyn yn rhan o'n gofynion cyn cyflogaeth a rhaid iddynt gael eu cwblhau'n foddhaol cyn y gellir dechrau cyflogaeth.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chymuned ac wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu amrywiol sy'n adlewyrchu'r dysgwyr a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fel cyflogwr sy'n falch o fod yn rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd (Disability Confident), rydym wedi ymrwymo i recriwtio, datblygu a chadw pobl anabl, gan sicrhau gweithle cynhwysol lle mae pawb yn cael cyfle i ffynnu.