MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (ACEY) Ysgol Gynradd Bodringallt

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838)

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002806 Dyddiad postio 13/11/2026 Dyddiad cau ceisiadau Gwag Cyflog Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838) Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD Teacher SEBD Bodringallt PS Spring 2027.docx Bodringallt SEBD JD Disgrifiad Swydd - Athro-Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen.doc

Athro Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (ACEY) Ysgol Gynradd Bodringallt

Disgrifiad Swydd
Penodiad Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol Gynradd Bodringallt.

Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY - £2,838

Oriau: 32 ½ awr yr wythnos

Dyddiad dechrau: 1 Ionawr 2027

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf am benodi athro/athrawes sydd â'r cymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu yn Ysgol Gynradd Bodringalltar sail secondiad ar gyfer a thymor y Gwanwyn 2027. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at 8 o ddisgyblion rhwng 7 ac 11 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae athro/athrawes a Chynorthwy-ydd Cynnal Dysgu yn gyfrifol am y dosbarth.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol / Anogaeth.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:

https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Canolfan Menter y Cymoedd ar (01443) 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026 am hanner nos.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.