MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend Campus,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : Digymhwyster: £27,231 - £32,136 y flwyddyn pro rataCymwysedig: £34,671 - £53,593 y flwyddyn pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Mathemateg (0.8 cyfwerth ag amser llawn)

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £27,231 - £32,136 y flwyddyn pro rataCymwysedig: £34,671 - £53,593 y flwyddyn pro rata

Darlithydd Mathemateg

Rhan Amser (0.8 cyfwerth ag amser llawn) a Pharhaol

(nodwch y bydd hyn yn cynnwys dosbarthiadau gyda'r nos)

Digymhwyster: £27,231 - £32,136 y flwyddyn pro rata

Cymwysedig: £34,671 - £53,593 y flwyddyn pro rata

Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Penybont i Ddarlithydd Mathemateg rhan amser ymuno â'n tîm Sgiliau arbennig.

Bydd gennych brofiad blaenorol o gyflwyno cyn-TGAU a TGAU Mathemateg, yn ogystal â'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif, gan y byddwch yn chwarae rhan arweiniol wrth baratoi a chyflwyno'r rhaglenni dysgu hyn yn effeithiol ac yn effeithlon, gan gynnwys marcio ac olrhain gwaith dysgwyr / cynnydd. Bydd eich rôl yn ganolog i gefnogi dysgwyr i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn y meysydd o'u dewis a llwyddo yn y dyfodol.

Gofynnwn fod gennych chi wybodaeth am gymwysterau Mathemateg a Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif CBAC presennol hyd at fanylebau Lefel 2, ynghyd ȃ gradd Mathemateg neu brofiad cyfwerth. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) a bod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol gan gynnwys y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr.

Os ydych chi'n angerddol am ysbrydoli ac ysgogi pob dysgwr, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Os ydych yn teimlo y gallech gyfrannu at y dysgu ac addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych! I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar Becyn Gwybodaeth y Swydd .

Bydd y cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2026.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweli ad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.