MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb : Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Fesul awr
- Cyflog : £23.59 - £46.42 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd a Delir Fesul Awr- Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
Coleg Gwent
Cyflog: £23.59 - £46.42 yr awr
Darlithydd a Delir Fesul Awr - Chwaraeon a Gwasanaethau CyhoeddusSwydd ddisgrifiad
Cyfnod Penodol hyd 25/06/27
9.5 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Bydd gennych radd mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus neu gymhwyster priodol arall o fewn y meysydd pwnc. Bydd gofyn i chi ymgymryd ag ystod o weithgareddau addysgu a chyfrannu'n effeithiol at waith tîm. Byddwch yn gymwysedig TAR (neu'n barod i weithio tuag at hyn) a rhaid bod gennych brofiad o addysgu BTEC Busnes.
Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
- Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:
Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
- Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.
Dyddiad Cau: 25/11/26
Dyddiad Cyfweliad: 03/12/26