Coleg Gwent

Coleg Gwent
Further Education Institution
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Gwent
  • Casnewydd
  • Newport
  • NP19 4TS
  • Coleg Gwent
  • Cwmbran
  • Torfaen
  • NP44 1DF
  • Coleg Gwent
  • Crosskeys
  • Caerffili
  • NP11 7ZA
  • Coleg Gwent
  • Glyn Ebbwy
  • Blaenau Gwent
  • NP23 6GL
  • Coleg Gwent
  • Brynbuga
  • Monmouthshire
  • NP15 1XJ
Amdanom Ni
Croeso i Goleg Gwent

Dewch i ymuno â'r tîm a bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Byddem wrth ein bodd petaech yn archwilio'r amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol a phrofiad gwaith gwerth chweil sydd gennym ar gael. O ystyried ein graddfa a'n maint, mae gennym ddewis amrywiol o swyddi ar gael yn aml, o swyddi darlithio i swyddi cefnogi busnes.

Mae gweithio i Coleg Gwent yn hwyl, cyffrous ac yn rhoi boddhad. Rydym yn cydnabod mai'r bobl sydd yn gweithio yma sy'n ein galluogi ni i ddarparu profiad dysgwr arbennig i filoedd o ddysgwyr sydd yn dewis dod i astudio gyda ni flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Rydym ymhlith y colegau sydd yn perfformio orau yng Nghymru, ac rydym hefyd yn un o'r mwyaf gyda dros 23,000 o fyfyrwyr.

Mae dros bum campws unigryw a hygyrch wedi eu lleoli ledled bwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen - felly mae byd cyffrous o gyfleoedd ar agor i bawb o fewn ein cymunedau lleol.