MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Learning Support Assistant - Gwaunmeisgyn Primary

Rhondda Cynon Taf
Learning Support Assistant - Gwaunmeisgyn Primary

Disgrifiad Swydd
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes RhCT

Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn

Cynorthwydd Cynnal Dysgu ar gyfer anawsterau dysgu cymhleth. I ddechreu Medi 2024

Graddfa Gyflog: Gradd 6 £25,979 a Lwfans AAA (£1,455) x 77.15%

Tymor yr ysgol yn unig

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu i ddechrau ym mis Medi 2024 ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion addysgol ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Helen Jenkins, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Canolfan Menter y Cymoedd ar (01443) 744333/ 07741816097.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 31/5/24

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion.

Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.