MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £64,305
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £64,305
Head of Welsh Language & EqualitySwydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
Helpwch ni i roi'r Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon profiad pob dysgwr a chydweithiwr.
Mae Coleg Gwent yn gwasanaethu dros 7,000 o ddysgwyr bob blwyddyn ledled De-ddwyrain Cymru. Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy'n cydweithio'n effeithiol i arwain ein timau Cymraeg a Chydraddoldeb ac i droi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dwyieithrwydd a chynhwysiant yn welliannau ystyrlon a mesuradwy.
Y cyfle
Arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaethau'r Coleg ar gyfer y Gymraeg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Cynyddu cyfleoedd ystyrlon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, gan helpu staff i ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru mewn addysgu ac ym mywyd dyddiol y Coleg.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg a chefnogi'r Coleg i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Arwain, cefnogi a datblygu timau; cryfhau dysgu proffesiynol; a meithrin partneriaethau effeithiol â dysgwyr, cydweithwyr a sefydliadau allanol.
- Defnyddio llais y dysgwr, mesurau perfformiad a gwella ansawdd i ddangos effaith gadarnhaol ar draws pob campws.
Amdanoch chi
Bydd gennych hanes profedig o arweinyddiaeth lwyddiannus mewn rôl drawsgolegol neu faes cwricwlwm, profiad o arwain timau, a dealltwriaeth gadarn o wella ansawdd, dysgu ac addysgu a Safonau'r Gymraeg. Byddwch yn frwdfrydig dros ddatblygu'r Gymraeg a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gyda'r gallu i ymgysylltu ag eraill a chyflawni newid. Mae'r fanyleb person hefyd yn cynnwys gradd anrhydedd berthnasol, cymhwyster addysgu cydnabyddedig a'r gallu i siarad Cymraeg hyd at Lefel 5.
Gwnewch wahaniaeth
Os gallwch ysbrydoli cydweithwyr, hyrwyddo diwylliant Cymru a chreu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynrychioli ac yn gallu llwyddo, byddem yn croesawu eich cais.
Am fanylion llawn ac i wneud cais, cyfeiriwch at y pecyn ymgeisydd a phroses recriwtio'r Coleg.
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
- Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:
- Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
- Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.
Dyddiad Cau: 22/11/26
Dyddiad Cyfweliad: 08/12/26