MANYLION
- Lleoliad: Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil, CF47 8AN
- Testun: Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Gorffen: 31 March, 2023
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 06 Medi, 2022 5:00 y.b
This job application date has now expired.
Gweithiwr y Rhaglen Ysbrydoli i Weithio (YiW)
Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Crynodeb o’r Swydd
Mae’r Rhaglen YiW yn brosiect rhanbarthol sy’n gweithio ar draws 5 awdurdod lleol ac fe’i hariennir trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (yr ESF).
Bydd y Gweithiwr YiW yn cymryd rhan yng ngweithrediadau’r Rhaglen ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Gweithredu ym Merthyr Tudful. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb am ymgysylltu â phobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth (NEET).
Bydd y Gweithiwr YiW yn sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei darparu mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol, gan gynnig cefnogaeth empathig, anfeirniadol a di-duedd trwy wrando ar bobl ifanc i’w galluogi i oresgyn problemau personol a chymdeithasol sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd y Gweithiwr YiW yn gweithredu mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn canfod yr elfennau sy’n rhwystro ymgysylltiad cyson â’r farchnad lafur. Cynigir cefnogaeth i oresgyn y rhwystrau hyn a bydd yn cwmpasu ystod o ymyriadau, gyda phob un ohonynt yn rhoi ffocws clir ar y flaenoriaeth o ennill cyflogaeth gynaliadwy. Bydd y rhaglen yn cefnogi’r bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol neu’n meddu ar gymhlethdodau sy’n eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd y dull hwn yn canolbwyntio ar unigolion ac yn darparu cefnogaeth briodol i’r rhai sy’n barod am waith a’r rheini sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur.
Amcanion byrdymor
Amcanion
hirdymor Ymgysylltu â phobl ifanc NEET trwy gwblhau asesiad cychwynnol i ddarparu cefnogaeth un i un a/neu grŵp sydd wedi’i theilwra ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed fel y gallant fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth a’u goresgyn.
Cefnogi pobl ifanc i gynyddu’u hunan-dyb, datblygu sgiliau meddal ac ennill cymwysterau i wella’u cyfleoedd bywyd a hyrwyddo’u taith i gyflogaeth.
Y Prif Dasgau Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid gan Lywodraeth Cymru.
Sefydlu cysylltiadau gwaith cryf â Gyrfa Cymru, y Cydlynydd Ymgysylltu a Dilyniant (EPC), y Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant sy’n Derbyn Gofal, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau’n Gyntaf a phrosiectau eraill yn y sector gwirfoddol sy’n cefnogi pobl ifanc, Barnardos a’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, i gynyddu’r siawns o ymgysylltu a datblygu perthnasoedd cadarnhaol â phobl ifanc NEET.
Cwblhau asesiad cychwynnol a defnyddio teclyn proffilio bregusrwydd i sefydlu anghenion cymorth gan ganolbwyntio ar eu sefyllfa bersonol a chymdeithasol.
Darparu cefnogaeth gyson i bobl ifanc a helpu i gydlynu cefnogaeth gan wahanol wasanaethau er mwyn gwella llesiant, hyder a hunan-dyb, ynghyd â’r gallu i reoli argyfwng.
Gweithio gyda phobl ifanc i ganfod eu diddordebau a datblygu’r rhain i fod yn ystod briodol o gyfleoedd dysgu.
Gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i gwblhau atgyfeiriadau fel y gall pobl ifanc gael gafael ar gyngor, arweiniad, cynlluniau gyrfa ac amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd.
Cwblhau cynlluniau gweithredu’r cyfranogwyr a chynnal adolygiadau rheolaidd ar sail un i un, gan sicrhau bod cyfranogwyr yn cymryd rhan yn natblygiad y Cynllun Gweithredu gan gynnwys gosod nodau fel y gellir dangos y pellter a deithiwyd gan bob un ohonynt.
Goruchwylio’r cyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau oddi ar y safle ac o fewn gweithdai.
Y gallu i gydnabod yr angen am gefnogaeth asiantaeth arbenigol i’r cyfranogwr a/neu’r teulu, ac yna gwneud yr atgyfeiriad priodol i MIA/TAF a’u diweddaru.
Cefnogi disgyblion Blwyddyn 11 sydd wedi gadael yr ysgol fel NEET i symud ymlaen i Gyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant priodol trwy drefnu cyfweliadau gyrfaol, ymweliadau â /gan ddarparwyr, cefnogaeth i gwblhau ceisiadau er mwyn cyrraedd y nod.
Cwblhau diweddariadau misol ar gyfranogwyr er mwyn hysbysu Gyrfa Cymru a’r EPC ohonynt yng Nghyfarfodydd Grŵp Gweithredol NEET.
Cwblhau Ffurflenni Atgyfeirio Amlasiantaethol os oes pryderon ynghylch llesiant pobl ifanc neu os bernir eu bod mewn perygl.
Cysylltu ag asiantaeth arbenigol briodol i sicrhau datblygiad personol a chymdeithasol y cyfranogwr.
Cefnogi’r dasg o weithredu strategaethau dysgu i alluogi cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau a chynyddu effeithlonrwydd personol, cymhelliant, hunanhyder, hunan-dyb a chadernid.
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gymwysterau i gefnogi’r dasg o gyflwyno a chasglu tystiolaeth fel y gall cyfranogwyr ennill ardystiad i safon y cytunwyd arni gan y corff dyfarnu.
Gan ddilyn fformat y cytunwyd arno, sicrhau y caiff ffeil ei chynnal o dystiolaeth yr achos er mwyn dogfennu’r cynnydd a’r pellter a deithiwyd.
Gweithio’n agos o fewn y tîm i sicrhau’ch bod yn cyfathrebu’n glir ynghylch cyfranogwyr ac yn rhwydweithio’n effeithiol ag asiantaethau eraill i sicrhau cynnydd y cyfranogwyr.
Mynychu cyfarfodydd, trosglwyddo gwybodaeth am gyfranogwyr, a mynychu cyfleoedd hyfforddi a digwyddiadau hyrwyddo perthnasol.
Unrhyw ddyletswyddau eraill yr ystyrir eu bod yn rhesymol yn unol â chyfarwyddyd y Swyddog Ysbrydoli i Gyflawni.
Yn adrodd i’r
Swyddog Ysbrydoli i Weithio
Yn gyfrifol am