MANYLION.
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Fesul awr
  • Cyflog : Graddfa Gyflog 1 - £13.45 yr awr 
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Gofal Anifeiliaid Achlysurol - Myfyrwyr Coleg Penybont yn Unig

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 1 - £13.45 yr awr 

Cynorthwyydd Gofal Anifeiliaid Achlysurol
Graddfa Gyflog 1 - £13.45 yr awr
Contract Achlysurol
(Mae'r oriau gweithio ar sail ad-hoc)
Sylwch - mae'r cyfle hwn wedi'i anelu at y corff myfyrwyr presennol yng Ngholeg Penybont

Byddwch yn cyflawni dyletswyddau gofal anifeiliaid cyffredinol a pharatoi offer ymarferol i'w ddefnyddio yn y ganolfan ac mewn darlithoedd. Bydd eich dyletswyddau yn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Dyletswyddau gofal anifeiliaid cyffredinol (taflu allan, gweinyddu meddyginiaethau sylfaenol, bwyda a dyfrio stoc ac ati);
  • Cynorthwyo a diweddaru cofnodion canolfan anifeiliaid;
  • Cynorthwyo ȃ chynnal a chadw'r caeau gofal anifeiliaid ac ardaloedd cysylltiedig;
  • Cynorthwyo gydag iechyd, lles ac ewthanasia'r holl stoc yn ôl yr angen;
  • Cynorthwyo gyda pharatoi, cynnal a chadw a storio offer ar gyfer sesiynau ymarferol;

Bydd gennych brofiad o hwsmonaeth ymarferol o anifeiliaid mawr a bach gan gynnwys anifeiliaid egsotig a dyfrol, byddwch hefyd yn meddu ar (neu'n gweithio tuag at) cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc yn gysylltiedig ag anifeiliaid, neu gyfwerth.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.