MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £25,885 - £28,595
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,885 - £28,595
Cynorthwyydd Gweinyddol (Dysgu Cymraeg Gwent)Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gweinyddol i ddarparu cymorth gweinyddol a gweithredol i holl weithgareddau Cymraeg i Oedolion yn ardal Gwent.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod gweithrediadau dyddiol Dysgu Cymraeg Gwent yn rhedeg yn esmwyth. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys rheoli cofnodion a data dysgwyr, cynorthwyo gyda phrosesau cofrestru cyrsiau, ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost, paratoi gohebiaeth a dogfennau, a chynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau a gweithgareddau.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys dyletswyddau gweinyddol ariannol, megis prosesu anfonebau, rheoli archebion prynu (POs), cynorthwyo gyda phrosesau talu, a thaliadau tiwtoriaid.
Bydd angen sgiliau TG da a hyder wrth ddefnyddio rhaglenni a systemau digidol, gan gynnwys Microsoft 365 (Word, Excel, Outlook a Teams), yn ogystal â'r gallu i ddysgu a defnyddio systemau a chronfeydd data newydd.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn drefnus, yn rhagweithiol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwrdd â therfynau amser. Mae'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol, ynghyd ag agwedd hyblyg a pharodrwydd i ymateb i anghenion y gwasanaeth.
Dymunir penodi ymgeisydd sy'n rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau gan unigolion sy'n dal i ddysgu'r Gymraeg ac sy'n gwbl ymroddedig i ddatblygu a gwella'u sgiliau iaith.
O bryd i'w gilydd, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar ddydd Sadwrn ac ar benwythnosau, yn ogystal â gyda'r hwyr ar achlysuron.
Swydd lawn amser, 37 awr yr wythnos, yw hon, wedi'i lleoli ar Gampws Crosskeys, Coleg Gwent.
Croesewir ceisiadau am weithio'n rhan amser neu rannu swydd. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr a allai ddymuno gweithio o amgylch oriau ysgol.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon , cysylltwch â Catrin Cameron, Rheolwr Swyddfa, Dysgu Cymraeg Gwent, ar 01495 333710 neu drwy e-bost: catrin.thomas@coleggwent.ac.uk
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
- Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
- Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:
- Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
- Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.
Dyddiad Cau: 22/11/26
Dyddiad Cyfweliad: 30/11/26