MANYLION.
  • Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £32,291 - £35,812
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd CDU

Y Coleg Merthyr Tudful

Cyflog: £32,291 - £35,812

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cynllun Datblygu Unigol profiadol i ymuno a'n tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae hwn yn gyfle i chwarae rôl allweddol i sicrhau bod dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn derbyn y gefnogaeth maent yn angen i gael mynediad, cymryd rhan a chyflawni eu targedau addysgol.

Yn gweithio'n agos gyda thimau cwricwlwm, staff cefnogaeth, rhieni/gofalwyr, ac asiantaethau allanol, byddwch yn cydlynu a goruchwylio'r datblygiad, gweithred, monitro ac adolygu o Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn unol â'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod ADY.

Fel cydlynydd, byddwch yn hybu ymarfer yn ganolog i'r person, cefnogi cydymffurfiad a dyletswyddau statudol a chyfrannu at amgylchedd dysgu cynhwysol lle gall pob dysgwr ffynnu.

Mae gwiriad DBS yn ofyniad y swydd hon.

Rydym yn disgwyl staff i hybu ein gwerthoedd coleg byw: Proffesiynol, Ysbrydoledig, Cydweithredol a Chefnogol.

Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle rydym nid yn unig yn derbyn gwahaniaeth - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliannau a chefndiroedd.

Os gwelwch yn dda, ymgeisiwch trwy ffurflen gais yn unig.

Dyddiad cau am geisiadau: 25/11/2026